{"id":531,"date":"2017-02-24T14:29:52","date_gmt":"2017-02-24T14:31:14","guid":{"rendered":"http:\/\/unishop.wales.ac.uk\/telerau-gwerthu-a-chyflenwi\/"},"modified":"2017-02-27T09:55:01","modified_gmt":"2017-02-27T09:55:01","slug":"telerau-gwerthu-a-chyflenwi","status":"publish","type":"page","link":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/telerau-gwerthu-a-chyflenwi\/","title":{"rendered":"Telerau Gwerthu A Chyflenwi"},"content":{"rendered":"<p><font style=\"font-size: 9pt; font-family: 'FS Albert'; text-align: justify;\"><br \/>\nOs archebir unrhyw eitem drwy\u2019n gwefan, bydd y feddalwedd yn cydnabod yr archeb yn awtomatig, ond ni fydd hynny\u2019n golygu bod contract pendant rhyngom. Gwneir contract pan gaiff y nwyddau eu hanfonebu a\u2019u hanfon atoch gan Prifysgol Cymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.<\/p>\n<p>Mae\u2019r telerau busnes isod yn dileu pob fersiwn blaenorol.<\/p>\n<p><b>1. DIFFINIADAU<\/b><\/p>\n<p>Ystyr y \u2018Wasg\u2019 yw Prifysgol Cymru sy\u2019n masnachu fel Gwasg Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>Ystyr y \u2018Cwsmer\u2019 yw\u2019r person, y cwmni neu\u2019r Wasg y gwneir contract ag ef neu hi i gyflenwi Nwyddau.<\/p>\n<p>Ystyr \u2018Cludydd\u2019 yw\u2019r cludydd a benodwyd gan y Wasg i ddosbarthu\u2019r nwyddau i\u2019r Cwsmer.<\/p>\n<p>Ystyr \u2018Nwyddau\u2019 yw\u2019r nwyddau (gan gynnwys unrhyw ran-ddosbarthiad o\u2019r nwyddau) y mae\u2019r Wasg i\u2019w cyflenwi yn unol \u00e2\u2019r Amodau hyn.<\/p>\n<p>Ystyr \u2018Telerau\u2019 yw\u2019r telerau a\u2019r amodau gwerthu safonol a nodir yn y ddogfen hon a\/neu fel y\u2019u hailgyhoeddir neu y\u2019u hadolygir gan y Wasg o bryd i\u2019w gilydd ac (onid yw\u2019r cyd-destun yn mynnu fel arall) maent yn cynnwys unrhyw delerau ac amodau arbennig y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y Wasg a\u2019r Cwsmer.<\/p>\n<p>Ystyr \u2018Contract\u2019 yw\u2019r contract i brynu a gwerthu\u2019r Nwyddau.<\/p>\n<p>Mae \u2018Ysgrifenedig\u2019 yn cynnwys telex, cebl, trosglwyddiad ffacsimile a dulliau cyfathrebu tebyg.<\/p>\n<p><b>2. SAIL Y GWERTHU<\/b><\/p>\n<p>(a) Nid yw gweithwyr cyflog nac asiantau\u2019r Prifysgol Cymru wedi\u2019u hawdurdodi i wneud unrhyw sylwadau am y Nwyddau onid yw\u2019r rheiny wedi\u2019u cadarnhau gan y Prifysgol Cymru yn Ysgrifenedig. Wrth ymrwymo i\u2019r Contract, mae\u2019r Cwsmer yn cydnabod nad yw\u2019n dibynnu ar unrhyw sylwadau o\u2019r fath sydd heb eu cadarnhau felly.<\/p>\n<p>(b) Os bydd y Cwsmer yn dilyn neu\u2019n gweithredu unrhyw gyngor neu argymhelliad a roir gan y Prifysgol Cymru neu ei gweithwyr cyflog neu ei hasiantau i\u2019r Cwsmer neu ei weithwyr cyflog neu ei asiantau ynghylch storio, cymhwyso neu ddefnyddio\u2019r Nwyddau, a\u2019r cyngor neu\u2019r argymhelliad hwnnw heb ei gadarnhau\u2019n Ysgrifenedig gan y Prifysgol Cymru, fe wna\u2019r Cwsmer hynny\u2019n llwyr ar ei risg ei hun, ac felly ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol am unrhyw gyngor neu argymhelliad o\u2019r fath sydd heb ei gadarnhau felly.<\/p>\n<p>(c) Bydd unrhyw wall teipio, gwall clerigol neu wall arall neu unrhyw beth a hepgorwyd mewn unrhyw lenyddiaeth gwerthu, dyfynbris, rhestr brisiau, derbyn cynnig, anfoneb neu ddogfen arall neu wybodaeth a roir gan y Prifysgol Cymru yn agored i\u2019w gywiro neu ei chywiro heb fod unrhyw atebolrwydd ar ran y Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p><b>3. ARCHEBION A MANYLEBAU<\/b><\/p>\n<p>(a) Fe gymerir na fydd unrhyw archeb a gyflwynir gan y Cwsmer wedi\u2019i derbyn gan y Prifysgol Cymru onid yw\u2019r Prifysgol Cymru yn rhoi anfoneb a than y gwnaiff hi hynny.<\/p>\n<p>(b) Bydd y Cwsmer yn atebol i\u2019r Prifysgol Cymru am sicrhau cywirdeb telerau\u2019r archeb (gan gynnwys unrhyw fanyleb gymwys) a gyflwynwyd gan y Cwsmer, ac am roi i\u2019r Prifysgol Cymru unrhyw wybodaeth angenrheidiol am y Nwyddau o fewn amser sy\u2019n rhesymol i alluogi\u2019r Prifysgol Cymru i gyflawni\u2019r Contract yn unol \u00e2\u2019i thelerau.<\/p>\n<p><b>4. DOSBARTHU<\/b><\/p>\n<p>(a) Bydd y Prifysgol Cymru yn dosbarthu\u2019r Nwyddau a archebwyd i\u2019r cyfeiriad a bennwyd gan y Cwsmer a phan fyddant wedi\u2019u dosbarthu i\u2019r cyfeiriad hwnnw fe freinir y risg yn Nwyddau a\u2019r cyfrifoldeb drostynt yn y Cwsmer neu, os yw\u2019r Cwsmer yn methu ar gam \u00e2 chymryd y Nwyddau, yr adeg y mae\u2019r Prifysgol Cymru wedi cyflwyno\u2019r Nwyddau i\u2019w dosbarthu.<\/p>\n<p>(b) Amcangyfrif busnes yn unig yw unrhyw ddyddiad anfon neu amser dosbarthu a bennir, ac ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol am unrhyw golled a ddioddefir oherwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio ag ef.<\/p>\n<p>(c) Gall y Prifysgol Cymru ddosbarthu\u2019r Nwyddau cyn y dyddiad dosbarthu a ddyfynnwyd os yw rhybudd rhesymol wedi\u2019i roi i\u2019r cwsmer.<\/p>\n<p>(d) Os yw\u2019n ofynnol cyflymu\u2019r dosbarthu neu\u2019r postio, gwneir pob ymdrech i ddosbarthu o fewn yr amser a ddyfynnwyd ond ni roir unrhyw warant ynghylch hynny, ac ni chymerir mai amser yw hanfod y contract. Os bydd y dosbarthu neu\u2019r postio\u2019n golygu tynnu costau ychwanegol, fe godir t\u00e2l i dalu am y cynnydd yn y gost, gan gynnwys treuliau neu gostau eraill gan gynnwys goramser a chyflogau.<\/p>\n<p>(e) Yn amodol ar unrhyw delerau arbennig y cytunwyd arnynt yn Ysgrifenedig rhwng y Cwsmer a\u2019r Prifysgol Cymru, bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu\u2019r Cwsmer am bris y Nwyddau adeg dosbarthu\u2019r Nwyddau neu ar unrhyw adeg ar \u00f4l hynny onid yw\u2019r Nwyddau i gael eu casglu gan y Cwsmer neu onid yw\u2019r Cwsmer yn methu ar gam \u00e2 chymryd y Nwyddau adeg eu dosbarthu, ac os digwydd yr olaf bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu\u2019r Cwsmer am y pris ar unrhyw adeg ar \u00f4l i\u2019r Prifysgol Cymru hysbysu\u2019r Cwsmer fod y Nwyddau\u2019n barod i gael eu casglu neu (fel y bo\u2019r achos) fod y Prifysgol Cymru wedi ceisio dosbarthu\u2019r Nwyddau.<\/p>\n<p><b>5. TALU<\/b><\/p>\n<p>(a) Yn absenoldeb unrhyw gytundeb i\u2019r gwrthwyneb, y telerau talu caeth yw bod yr arian i gyrraedd y Prifysgol Cymru erbyn 30 diwrnod fan bellaf ar \u00f4l dyddiad yr anfoneb.<\/p>\n<p>(b) Mae\u2019r Prifysgol Cymru yn cadw\u2019r hawl ar unrhyw adeg yn ei disgresiwn llwyr i fynnu bod unrhyw anfoneb yn cael ei thalu ar unwaith, boed ddyledus neu beidio.<\/p>\n<p>(c) Ni fydd talu i unrhyw drydydd parti yn rhyddhau\u2019r Cwsmer rhag ei atebolrwydd o dan unrhyw gontract \u00e2\u2019r Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>(d) Ni fydd gan y Cwsmer yr hawl i ddal y cyfan neu ran o daliad yn \u00f4l am y rheswm fod ganddo hawliad, gwrth-hawliad neu wrth-gyfrif yn erbyn y Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>(e) Os yw\u2019r Cwsmer yn methu \u00e2 gwneud unrhyw daliad ar y dyddiad dyledus, yna, heb ragfarnu unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael i\u2019r Prifysgol Cymru, bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl:<\/p>\n<p>(i) i ganslo\u2019r contract neu i atal unrhyw ddosbarthu pellach i\u2019r Cwsmer;<\/p>\n<p>(ii) i berchnogi unrhyw daliad a wnaed gan y Cwsmer am unrhyw rai o\u2019r Nwyddau (neu\u2019r nwyddau a gyflenwyd o dan unrhyw gontract arall rhwng y Cwsmer a\u2019r Prifysgol Cymru) ag y gw\u00eal y Prifysgol Cymru yn dda (er gwaethaf unrhyw berchnogi honedig gan y Cwsmer); a<\/p>\n<p>(iii) i godi llog ar y Cwsmer (cyn ac ar \u00f4l unrhyw ddyfarniad) am y swm sydd heb ei dalu, a hynny ar gyfradd o ddau y cant y flwyddyn uwchlaw cyfradd sylfaenol y Banc Midland o bryd i\u2019w gilydd, tan y gwneir y taliad llawn (gan drin rhan o fis fel mis llawn at ddibenion cyfrifo\u2019r llog).<\/p>\n<p><b>6. HAWLIADAU<\/b><\/p>\n<p>(a) Ni fydd y Prifysgol Cymru yn derbyn unrhyw hawliad am fethu \u00e2 dosbarthu, am ddosbarthu\u2019n hwyr neu am ddosbarthu nwyddau sy\u2019n llai na\u2019r nifer neu\u2019r swm a nodwyd ar yr anfoneb, nac am ddifrod neu f\u00e2n-ddwyn<\/p>\n<p>(i) onid yw\u2019r hawliad yn cydymffurfio\u2019n gaeth \u00e2\u2019r gweithdrefnau a nodir isod a<\/p>\n<p>(ii) onid yw\u2019r Cwsmer yn rhoi\u2019r holl awdurdod a\u2019r cymorth angenrheidiol i\u2019r Prifysgol Cymru i\u2019w galluogi i brosesu\u2019r hawliad yn erbyn y Cludydd. Gall methu \u00e2 chydymffurfio\u2019n gaeth \u00e2\u2019r gofynion hyn arwain at wrthod neu oedi hawliadau. Ni fydd atebolrwydd y Prifysgol Cymru o dan unrhyw amgylchiadau yn fwy na gwerth y Nwyddau a gollwyd neu a ddifrodwyd.<\/p>\n<p>(b) Hawliadau am fethu \u00e2 dosbarthu: Os na fydd y Nwyddau wedi cyrraedd cyn pen 28 o ddiwrnodau gwaith ar \u00f4l dyddiad cael yr anfoneb, rhaid hysbysu\u2019r Prifysgol Cymru yn syth ac yn ysgrifenedig o hynny gan roi\u2019r manylion llawn.<\/p>\n<p>(c) Ceisiadau am brawf o\u2019r dosbarthu: Os gofynnir i\u2019r Prifysgol Cymru gyflwyno prawf o\u2019r dosbarthu, mae\u2019r Prifysgol Cymru yn cadw\u2019r hawl i godi t\u00e2l ar y Cwsmer am y costau gweinyddol a\u2019r treuliau a dynnir wrth gyflwyno\u2019r prawf hwnnw ac eithrio lle gellir dangos nad yw\u2019r nwyddau wedi\u2019u dosbarthu.<\/p>\n<p>(d) Hawliadau am brinder, m\u00e2n-ddwyn neu ddifrod: Dylid archwilio tu allan pob defnydd pacio, casyn ac ati pan gaiff ei ddosbarthu, a hynny ym mhresenoldeb y Cludydd. Os yw\u2019r nwyddau a ddosbarthwyd yn wahanol i\u2019r hyn a bennwyd ar yr anfoneb neu os yw\u2019n ymddangos y bu ymyrryd \u00e2\u2019r nwyddau neu ddifrod iddynt, dylid cofnodi hynny ar daflen ddosbarthu\u2019r Cludydd, a hysbysu\u2019r Prifysgol Cymru a\u2019r Cludydd cyn pen 24 awr. Os yw pecynnau\u2019n ymddangos fel petaent mewn cyflwr boddhaol, dylid rhoi llofnod clir. Dylid dadbacio a gwirio\u2019r cynnwys ar unwaith, a hysbysu am unrhyw brinder neu ddifrod cyn pen 24 awr, yn ysgrifenedig i\u2019r Prifysgol Cymru, gan roi\u2019r manylion llawn.<\/p>\n<p><b>7. DYCHWELYD NWYDDAU I\u2019R Prifysgol Cymru GAN GWSMERIAID<\/b><\/p>\n<p>(a) Nid yw\u2019r Prifysgol Cymru o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn dychwelyd Nwyddau oddi wrth Gwsmeriaid ac ni ddylid dychwelyd unrhyw Nwyddau o\u2019r fath heb gael caniat\u00e2d ysgrifenedig y Prifysgol Cymru ymlaen llaw.<\/p>\n<p>(b) Mae\u2019r Prifysgol Cymru yn cadw\u2019r hawl i godi t\u00e2l gweinyddol ar y Cwsmer mewn perthynas \u00e2 dychwelyd eitemau heb awdurdod i wneud hynny.<\/p>\n<p>(c) Os dychwelir Nwyddau, mae\u2019r Prifysgol Cymru yn cadw\u2019r hawl i enwebu ei Chludydd ei hun i ddychwelyd y nwyddau i\u2019r Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p><b>8. EIDDO<\/b><\/p>\n<p>Er i\u2019r Nwyddau gael eu dosbarthu i\u2019r Cwsmer:<\/p>\n<p>(a) Rhaid i\u2019r teitl ecwit\u00efol cyfreithiol yn y Nwyddau beidio \u00e2 throsglwyddo i\u2019r Cwsmer tan i bob swm sydd i\u2019w dalu mewn perthynas \u00e2\u2019r Nwyddau a\u2019r holl nwyddau eraill y cytunwyd i\u2019w gwerthu gan y Prifysgol Cymru i\u2019r Cwsmer y mae t\u00e2l yna\u2019n ddyledus amdanynt wedi\u2019i dalu.<\/p>\n<p>(b) Caiff y Cwsmer werthu\u2019r Nwyddau drwy werthiant bona fide yng nghwrs arferol ei fusnes ar ei delerau a\u2019i amodau safonol ac os felly bydd y Cwsmer yn eu gwerthu fel asiant i\u2019r Prifysgol Cymru. Ni chaiff y Cwsmer fel arall ddelio \u00e2\u2019r Nwyddau, eu gwerthu, ymadael \u00e2 meddiant ohonynt na chael gwared arnynt fel arall tan i\u2019r teitl iddynt fod wedi\u2019i drosglwyddo i\u2019r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod.<\/p>\n<p>(c) Tan yr amser y trosglwyddir yr eiddo yn y Nwyddau i\u2019r Cwsmer (ac ar yr amod bod y Nwyddau\u2019n dal i fod a heb eu hailwerthu), bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl ar unrhyw adeg i fynnu bod y Cwsmer yn cyflwyno\u2019r Nwyddau i\u2019r Prifysgol Cymru ac, os bydd y Cwsmer yn methu \u00e2 gwneud hynny\u2019n syth, i fynd i mewn i unrhyw ran o dir neu adeilad y Cwsmer neu unrhyw drydydd parti lle mae\u2019r Nwyddau wedi\u2019u storio ac adfeddiannu\u2019r Nwyddau.<\/p>\n<p>(d) Ni fydd gan y Cwsmer yr hawl i wystlo nac mewn unrhyw ffordd i godi t\u00e2l ar ffurf sicrwydd am unrhyw ddyled unrhyw un neu rai o\u2019r Nwyddau sy\u2019n aros yn eiddo i\u2019r Prifysgol Cymru, ond os gwna\u2019r Cwsmer hynny bydd pob arian sydd ar y Cwsmer i\u2019r Prifysgol Cymru (heb ragfarnu unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd gan y Prifysgol Cymru) yn ddyledus ac yn daladwy\u2019n syth.<\/p>\n<p>(e) Os gwerthir unrhyw un neu rai o\u2019r nwyddau i drydydd parti cyn i\u2019r teitl ynddynt fod wedi\u2019i drosglwyddo i\u2019r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod, bydd y gwerthiant hwnnw\u2019n werthiant gan y Cwsmer o eiddo\u2019r Prifysgol Cymru ac felly bydd y Cwsmer yn atebol i\u2019r Prifysgol Cymru am ffrwyth y gwerthiant hyd at y cyfanswm sy\u2019n ddyledus mewn perthynas \u00e2\u2019r Nwyddau a than y cyflwynir y cyfrif hwnnw bydd yn dal yr eiddo ar ymddiried i\u2019r Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>(f) Tan i\u2019r teitl gael ei drosglwyddo i\u2019r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod, rhaid i\u2019r Cwsmer gadw\u2019r Nwyddau wedi\u2019u hyswirio\u2019n llawn ac os caiff y nwyddau eu colli, eu difrodi neu ddinistrio rhaid iddo gadw arian yr yswiriant ar gyfer y Prifysgol Cymru ac yn unol \u00e2 gorchymyn y Prifysgol Cymru tan iddo dalu\u2019n llawn am y nwyddau.<\/p>\n<p>(g) Bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i gynnal achos am bris y Nwyddau, er nad yw\u2019r eiddo ynddynt wedi\u2019i drosglwyddo i\u2019r Cwsmer.<\/p>\n<p><b>9. CYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD<\/b><\/p>\n<p>(a) Ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol i\u2019r Cwsmer ac ni thybir ei bod yn torri\u2019r Contract oherwydd unrhyw oedi wrth gyflawni, neu unrhyw fethiant i gyflawni, unrhyw un o rwymedigaethau\u2019r Prifysgol Cymru mewn perthynas \u00e2\u2019r Nwyddau, os oedd yr oedi neu\u2019r methiant i\u2019w briodoli i unrhyw achos y tu hwnt i reolaeth resymol y Prifysgol Cymru. Heb ragfarnu ystyr gyffredinol yr uchod, rhaid ystyried y canlynol fel achosion sydd y tu hwnt i reolaeth resymol y Prifysgol Cymru:<\/p>\n<p>(i) Gweithred gan Dduw, ffrwydrad, llif, tymestl, t\u00e2n neu ddamwain;<\/p>\n<p>(ii) rhyfel neu fygythiad o ryfel, difrod, terfysg, cythrwfl sifil neu atafaelu;<\/p>\n<p>(iii) gweithredoedd, cyfyngiadau, rheoliadau, is\u2011ddeddfau, gwaharddiadau neu fesurau o unrhyw fath gan unrhyw awdurdod llywodraethol, seneddol neu leol;<\/p>\n<p>(iv) rheoliadau neu waharddiadau ar fewnforio neu allforio;<\/p>\n<p>(v) streiciau, cloi allan neu unrhyw weithredu diwydiannol neu anghydfodau masnach eraill (boed hwy\u2019n cynnwys gweithwyr cyflog y Prifysgol Cymru neu weithwyr cyflog trydydd parti);<\/p>\n<p>(vi) trafferthion wrth sicrhau defnyddiau crai, llafur, tanwydd, rhannau neu beirianwaith;<\/p>\n<p>(vii) methiant p\u0175er neu beirianwaith yn diffygio.<\/p>\n<p>(b) Os yw\u2019r Nwyddau\u2019n ddiffygiol am unrhyw reswm neu wedi\u2019u colli neu wedi\u2019u difrodi caiff unig a llwyr rwymedi\u2019r Cwsmer ac unig atebolrwydd y Prifysgol Cymru (os o gwbl) ei gyfyngu\u2019n benodol, yn \u00f4l dewis y Prifysgol Cymru, i gywiro\u2019r diffyg, darparu Nwyddau newydd yn lle\u2019r rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd, neu ad-dalu\u2019r pris prynu a dalwyd i\u2019r Prifysgol Cymru, ac ni chaiff unrhyw gywiro neu unrhyw ddarparu eitem yn lle\u2019r eitem a gollwyd neu a ddifrodwyd fod yn fwy na\u2019r pris prynu a dalwyd i\u2019r Prifysgol Cymru am yr eitem ddiffygiol ei hun.<\/p>\n<p>(c) Ni fydd y Prifysgol Cymru beth bynnag yn atebol mewn perthynas ag unrhyw golled anuniongyrchol neu golled neu ddifrod dilynol a ddaw i ran y Cwsmer boed yn deillio o\u2019r Cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef. Bydd \u201ccolled ddilynol\u201d yn cynnwys colli elw, defnydd neu ewyllys da (neu gost ariannol debyg), unrhyw daliad a wnaed neu sy\u2019n ddyledus i drydydd parti, ac unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan wallau neu gan oedi wrth ddosbarthu.<\/p>\n<p>(d) Caiff pob disgrifiad, sylw, manyleb, sampl, lliw, llun a manylion eraill a gyflwynir neu a wneir ar lafar gan y Prifysgol Cymru neu mewn catalogau, llenyddiaeth fasnach, rhestri prisiau neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan y Prifysgol Cymru ei roi neu ei rhoi neu eu rhoi er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac mae\u2019r Cwsmer yn cydnabod nad yw\u2019n dibynnu ar unrhyw ddisgrifiad, sylw, manyleb, sampl neu fanylyn arall o\u2019r fath wrth ymrwymo i\u2019r contract.<\/p>\n<p>(e) Ac eithrio i\u2019r graddau y darperir yn benodol ar eu cyfer yn yr Amodau hyn, ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol boed mewn contract, tort neu fel arall am unrhyw golled, difrod neu anaf sut bynnag y\u2019i hachoswyd neu a gododd o unrhyw ddiffyg yn y Nwyddau, unrhyw fethiant ynddynt neu unrhyw anaddasrwydd at unrhyw ddiben.<\/p>\n<p><b>10. GWYBODAETH A DATA<\/b><\/p>\n<p>(a) Gall y Prifysgol Cymru yn ei disgresiwn llwyr gyflenwi adroddiadau rheoli i\u2019r Cwsmer i helpu\u2019r Cwsmer i werthuso\u2019i ofynion am y nwyddau sydd i\u2019w cyflenwi gan y Prifysgol Cymru. Cyflenwir adroddiadau rheoli er cyfarwyddyd yn unig ac nid yw\u2019r Prifysgol Cymru yn gwneud unrhyw honiad ynghylch cywirdeb y wybodaeth sydd wedi\u2019i chynnwys mewn adroddiadau rheoli.<\/p>\n<p>(b) Mae\u2019r wybodaeth sydd wedi\u2019i chynnwys yn yr adroddiadau rheoli a\u2019r holl wybodaeth sydd wedi\u2019i choladu neu wedi\u2019i ddadansoddi gan y Prifysgol Cymru ar ran y Cwsmer yn gyfrinachol. Ni chaiff y Cwsmer, heb iddo gael caniat\u00e2d ysgrifenedig y Prifysgol Cymru ymlaen llaw, ddatgelu unrhyw wybodaeth o\u2019r fath i unrhyw drydydd parti, na defnyddio at unrhyw ddiben (heblaw gwerthuso\u2019i ofynion am nwyddau sydd i\u2019w cyflenwi gan y Prifysgol Cymru).<\/p>\n<p>(c) Ac eithrio fel y darparwyd neu y cytunwyd arno yng nghymal 10(a) uchod ni fydd yn ofynnol i\u2019r Prifysgol Cymru roi i\u2019r Cwsmer wybodaeth fel y\u2019i coladwyd ac y\u2019i dadansoddwyd gan y Prifysgol Cymru ac fe gymerir bod pob dogfen sy\u2019n cynnwys gwybodaeth o\u2019r fath, fel rhwng y Prifysgol Cymru a\u2019r Cwsmer, yn eiddo i\u2019r Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p><b>11. ANSOLFEDD<\/b><\/p>\n<p>(a) Os bydd y Cwsmer yn methu \u00e2 gwneud taliad o fewn 30 diwrnod i\u2019r dyddiad y mae\u2019n ddyledus neu\u2019n cyflawni unrhyw weithred arall sy\u2019n torri\u2019r telerau busnes hyn neu os gwneir gorchymyn neu benderfyniad effeithiol i ddirwyn y Cwsmer i ben neu os penodir derbynnydd, derbynnydd gweinyddol, derbynnydd a rheolwr neu swyddog tebyg mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o eiddo, asedau neu ymgymeriad y Cwsmer neu os codir neu os gorfodir atafael, cyflawniad, secwestraeth neu broses arall ar neu yn erbyn unrhyw un neu rai o asedau\u2019r Cwsmer neu os yw\u2019r Cwsmer yn bygwth rhoi\u2019r gorau i gynnal busnes neu\u2019n mynd i ddatodiad neu\u2019n methu \u00e2 thalu ei ddyledion o fewn ystyr Adran 123 Deddf Ansolfedd 1986 neu os yw\u2019r Cwsmer yn gwneud trefniant neu gomp\u00f3wnd \u00e2\u2019i gredydwyr neu (os yw\u2019n unigolyn) os cyflwynir deiseb neu os gwneir cais am orchymyn interim neu orchymyn methdaliad neu os yw\u2019r Cwsmer i bob golwg yn fethdalwr, yna daw trwydded y Cwsmer yn 8(b) i ben yn awtomatig ac yn syth a heb rybudd a gall y Prifysgol Cymru, heb ragfarnu unrhyw hawliau neu rwymed\u00efau eraill sydd ar gael iddi, derfynu heb rybudd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gontract \u00e2\u2019r Cwsmer neu atal neu ganslo dosbarthu nwyddau o dano. Os yw\u2019r Nwyddau wedi\u2019u dosbarthu ond os na thalwyd amdanynt bydd y pris yn ddyledus ar unwaith ac i\u2019w dalu er gwaethaf unrhyw gytundeb neu drefniant blaenorol \u00e2\u2019r Prifysgol Cymru.<\/p>\n<p>(b) Er hyrwyddo 8(a) mae\u2019r Cwsmer yn rhoi i\u2019r Prifysgol Cymru awdurdod di-alw\u2019n \u00f4l i fynd i mewn i dir ac adeiladau\u2019r Cwsmer heb rybudd i gasglu\u2019r Nwyddau a\u2019u symud oddi yno.<\/p>\n<p><b>12. CYFFREDINOL<\/b><\/p>\n<p>(a) Er hwylustod yn unig y mae\u2019r penawdau yn yr Amodau hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y dehongliad ohonynt.<\/p>\n<p>(b) Mae\u2019r Telerau\u2019n gymwys i bob archeb a roir i\u2019r Prifysgol Cymru ac mae\u2019r archebion hynny\u2019n ddarostyngedig i\u2019w derbyn gan y Prifysgol Cymru. Cymerir bod archebion o\u2019r fath wedi\u2019u gwneud yn ddarostyngedig i\u2019r Telerau a bydd y Telerau\u2019n drech nag unrhyw delerau a gyflwynir, a gynigir neu a bennir gan y Cwsmer ar ba ffurf bynnag ac ar ba adeg bynnag, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, boed wedi\u2019u cynnwys mewn unrhyw ffurflen archebu neu fel arall, sydd wedi\u2019u hepgor neu wedi\u2019u hallg\u00e1u\u2019n benodol, oni chytunwyd yn benodol arnynt yn ysgrifenedig gan y Prifysgol Cymru.  <\/p>\n<p>(c) Rhaid i unrhyw rybudd y mae\u2019n ofynnol neu y caniateir ei roi gan y naill barti i\u2019r llall o dan y Telerau hyn fod yn ysgrifenedig ac wedi\u2019i gyfeirio i\u2019r parti arall hwnnw yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif le busnes neu unrhyw gyfeiriad arall ag a all fod ar yr adeg berthnasol wedi\u2019i hysbysu yn unol \u00e2\u2019r ddarpariaeth hon i\u2019r parti sy\u2019n rhoi\u2019r rhybudd.<\/p>\n<p>(d) Ni chaiff unrhyw hepgoriad gan y Prifysgol Cymru o unrhyw doriad o\u2019r Contract gan y Cwsmer ei ystyried yn hepgoriad o unrhyw doriad ar \u00f4l hynny o\u2019r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.<\/p>\n<p>(e) Os delir bod unrhyw deler neu ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn anghyfreithlon neu\u2019n anorfodadwy, yn gyfan neu\u2019n rhannol, dan unrhyw ddeddfiad neu reolaeth cyfraith, fe gymerir nad yw\u2019r teler hwnnw neu\u2019r ddarpariaeth honno i\u2019r graddau hynny\u2019n rhan o\u2019r Telerau hyn ond nid effeithir ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Telerau hyn.<\/p>\n<p>(f) Ni cheir rhyddhau, diwygio, amrywio nac addasu\u2019r Telerau hyn mewn unrhyw ffordd ac eithrio drwy offeryn Ysgrifenedig sydd wedi\u2019i lofnodi gan swyddog neu gynrychiolydd sydd wedi\u2019i awdurdodi\u2019n briodol gan y Prifysgol Cymru a\u2019r Cwsmer.<\/p>\n<p><b>13. CYFRAITH<\/b><\/p>\n<p>Ac eithrio fel y darperir yn benodol yn y ddogfen hon, fe eithrir drwy hyn bob gwarant, teler ac amod arall boed benodol neu ymhlyg, cyfochrog, statudol neu fel arall ac eithrio\u2019r rhai na ellir drwy statud eu cau allan. Rheolir yr amodau a phob un o delerau penodol eraill y contract yn unol \u00e2 chyfreithiau Cymru a Lloegr.<br \/>\n<\/font><\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Os archebir unrhyw eitem drwy\u2019n gwefan, bydd y feddalwedd yn cydnabod yr archeb yn awtomatig, ond ni fydd hynny\u2019n golygu bod contract pendant rhyngom. Gwneir contract pan gaiff y nwyddau eu hanfonebu a\u2019u hanfon atoch gan Prifysgol Cymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol. Mae\u2019r telerau busnes isod yn dileu pob fersiwn [&hellip;]<\/p>\n","protected":false},"author":1,"featured_media":0,"parent":0,"menu_order":0,"comment_status":"closed","ping_status":"closed","template":"","meta":{"footnotes":""},"class_list":["post-531","page","type-page","status-publish","hentry"],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/531","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages"}],"about":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/page"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/1"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=531"}],"version-history":[{"count":0,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/pages\/531\/revisions"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=531"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}