{"id":6015,"date":"2019-01-17T15:22:46","date_gmt":"2019-01-21T14:39:01","guid":{"rendered":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/?post_type=product&#038;p=6015"},"modified":"2019-05-29T11:55:49","modified_gmt":"2019-05-29T10:55:49","slug":"the-welsh-correspondence-of-the-french-revolution","status":"publish","type":"product","link":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/cynnyrch\/the-welsh-correspondence-of-the-french-revolution\/","title":{"rendered":"Welsh Correspondence of the French Revolution 1789-1802"},"content":{"rendered":"","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Golygwyd gan: Ffion M. Jones<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd: 2018<\/p>\n<p>ISBN: 978-1-907029-29-5<\/p>\n<p>Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru<\/p>\n<p>Fformat: Clawr papur, x+163<\/p>\n<p>Casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd yn ystod blynyddoedd y Chwyldro Ffrengig a\u2019r rhyfeloedd ar gyfandir Ewrop a ddaeth yn ei sgil sydd yn y gyfrol Welsh Correspondence of the French Revolution 1789\u20131802. Mae cysylltiad rhyngddynt oll a Chymru: fe\u2019u hanfonwyd gan neu at bobl yn byw yno, i neu o Ffrainc, Iwerddon, Gogledd America neu Loegr, yn ogystal ag o fewn ffiniau Cymru ei hun. Cynhwysir enwau adnabyddus ochr yn ochr \u00e2 rhai cwbl ddinod. Agorir y gyfrol gyda llais yr athronydd blaenllaw Richard Price, sy\u2019n ysgrifennu at lysgennad America ym Mharis, Thomas Jefferson, i fynegi ei orfoledd o glywed am y newidiadau eithriadol yn Ffrainc yn ystod haf 1789. Mae llythyrau\u2019r Bedyddiwr Morgan John Rhys yn adrodd am ei ymdrechion i sefydlu addoldai Protestannaidd yn Boulogne-sur-mer a Calais. Daw\u2019n eglur fod effaith digwyddiadau yn Ffrainc ym bellgyrhaeddol, ac nad yw Cymru\u2019n dianc o\u2019u gafael. Mae lleisiau\u2019r dosbarth llywodraethol yn dangos treiddgarwch sylwad Price yn ei lythyr at Jefferson: \u2018You may be sure that what is passing in France cannot be very agreeable to the courtiers and Tories in this country\u2019. Gwelir Thomas Pennant yn ymroi i sefydlu Cymdeithas Deyrngarol Sir y Fflint, ac eglwyswyr yn sir Feirionnydd yn annog gw\u0177r ifanc i ymadael am yrfa yn llongau Ei Fawrhydi. Cadarnheir nad yw ofnau\u2019r dosbarthiadau llywodraethol yn ddi-sail yn llythyrau\u2019r saer maen Iolo Morganwg, neu yn adroddiad Richard Powel o Ysbyty Ifan ynghylch cythrwfl yn Ninbych yn 1795. Ac yn gefnlen i\u2019r cyffroadau hyn oll clywir lleisiau\u2019r menywod a adawyd gartref: ysgrifenna Crynwraig ifanc ynghylch cyrhaeddiad y Ffrancod yn Hwlffordd wedi eu glaniad aflwyddiannus yn Abergwaun, a rhydd Sarah Tighe adroddiad yngl\u0177n \u00e2 gwrthryfel gwaedlyd yn Iwerddon yn 1798 mewn llythyr at ei pherthynas, Sarah Ponsonby, yn Llangollen.<\/p>\n<p>Dod \u00e2\u2019r lleisiau hyn yn fyw yw bwriad y gyfrol hon, gan sicrhau wrth wneud hynny gydnabyddiaeth i berthnasedd blynyddoedd y Chwyldro Ffrengig i hanes a datblygiad Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau\u2019r ganrif ddilynol. Ceir yn y gyfrol ragymadrodd, ynghyd \u00e2 nodiadau manwl ar dros ddeugain o lythyrau, gyda chyfieithiadau o\u2019r Gymraeg a\u2019r Ffrangeg, fel bo\u2019n briodol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6014,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"product_brand":[],"product_cat":[43,44],"product_tag":[],"class_list":{"0":"post-6015","1":"product","2":"type-product","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"product_cat-y-ganolfan-geltaidd","7":"product_cat-cyhoeddiadau-diweddar","9":"first","10":"instock","11":"purchasable","12":"product-type-simple"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product\/6015","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product"}],"about":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/product"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6015"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6014"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6015"}],"wp:term":[{"taxonomy":"product_brand","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_brand?post=6015"},{"taxonomy":"product_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_cat?post=6015"},{"taxonomy":"product_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_tag?post=6015"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}