{"id":6270,"date":"2019-02-13T15:30:41","date_gmt":"2019-02-13T15:30:41","guid":{"rendered":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/product\/gwaith-y-nant\/"},"modified":"2019-05-29T12:00:09","modified_gmt":"2019-05-29T11:00:09","slug":"gwaith-y-nant","status":"publish","type":"product","link":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/cynnyrch\/gwaith-y-nant\/","title":{"rendered":"Gwaith y Nant"},"content":{"rendered":"","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Golygwyd gan: Huw Meirion Edwards<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd: 2013<\/p>\n<p>ISBN: 978-1-907029-11-0<\/p>\n<p>Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru<\/p>\n<p>Maint: 234 x 156mm<\/p>\n<p>Fformat: Clawr papur, xvi+157<\/p>\n<p>Canai\u2019r Nant yn siroedd Brycheiniog, Morgannwg a Mynwy yn nhraean olaf y bymthegfed ganrif. Yn ogystal \u00e2 chanu\u2019n helaeth i deulu Porthgogof, Ystradfellte, cyfarchodd rai o noddwyr amlycaf ei oes: Fychaniaid Tret\u0175r, Twrbiliaid Llandudwg, a Rhys ap Si\u00f4n ap Rhys ap Siancyn o Aberpergwm yng Nglyn-nedd. Derbyniodd nawdd hefyd gan noddwyr eglwysig, yn Ystradfellte ac yn abaty Margam. Ceir ganddo gynifer \u00e2 naw o gerddi gofyn, drosto\u2019i hun a thros ei noddwyr, ynghyd \u00e2 phedair cerdd fawl a thair dychangerdd, dwy ohonynt yn melltithio lladron a\u2019r llall yn tynnu coes un o\u2019i gyd-feirdd.<\/p>\n<p>Y mae\u2019r Nant wedi ei drwytho ym myd-olwg ac yng nghyfeiriadaeth y Cywyddwyr, ac eto y mae\u2019n wahanol iawn ar sawl cyfrif i\u2019r beirdd eraill y cyhoeddwyd eu gwaith yn y gyfres hon. Cofnodwyd y cerddi \u2013 gan y bardd ei hun, yn \u00f4l pob golwg, oddeutu 1480 \u2013 mewn llawysgrifen ac orgraff unigryw. Ac eithrio un gadwyn englynion ddigon anghelfydd, fe\u2019u canwyd ar fesur o linellau byrion, bachog a\u2019r trawiad cynganeddol wedi ei gyfyngu i gynffon pob pennill. Yn llais hynod y Nant caiff ieithwedd gyfoethog y penceirddiaid ei hasio \u00e2 thafodiaith fras, a bywiogir ei gerddi gan bersonoliaeth farddol hyderus a ffraeth sy\u2019n gyfuniad o ymffrost a pharodrwydd i chwerthin am ei ben ei hun. Dyma enghraifft brin o\u2019r math o ddiddanwch clerwraidd, llai caboledig a glywid ochr yn ochr \u00e2 chanu\u2019r prif draddodiad yng Nghymru\u2019r Oesoedd Canol.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6269,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"product_brand":[],"product_cat":[44,43],"product_tag":[],"class_list":{"0":"post-6270","1":"product","2":"type-product","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"product_cat-cyhoeddiadau-diweddar","7":"product_cat-y-ganolfan-geltaidd","9":"first","10":"instock","11":"purchasable","12":"product-type-simple"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product\/6270","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product"}],"about":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/product"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6270"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6269"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6270"}],"wp:term":[{"taxonomy":"product_brand","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_brand?post=6270"},{"taxonomy":"product_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_cat?post=6270"},{"taxonomy":"product_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_tag?post=6270"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}