{"id":6395,"date":"2019-02-25T14:30:01","date_gmt":"2019-02-25T14:30:01","guid":{"rendered":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/product\/gwaith-gruffudd-gryg\/"},"modified":"2019-05-29T12:06:17","modified_gmt":"2019-05-29T11:06:17","slug":"gwaith-gruffudd-gryg","status":"publish","type":"product","link":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/cynnyrch\/gwaith-gruffudd-gryg\/","title":{"rendered":"Gwaith Gruffudd Gryg"},"content":{"rendered":"","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Golygwyd gan: Barry J. Lewis ac Eurig Salisbury<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd: 2010<\/p>\n<p>ISBN: 978-0-947531-78-2<\/p>\n<p>Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru<\/p>\n<p>Maint: 234 x 156mm<\/p>\n<p>Fformat: Clawr papur, xix+223<\/p>\n<p>Un o feirdd y cywydd oedd Gruffudd Gryg, a chanai yn yr un cyfnod \u00e2\u2019i gyfaill a\u2019i wrthwynebydd Dafydd ap Gwilym, sef tua chanol y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae\u2019r ddau gyd-olygydd yn credu\u2019n gryf fod Gruffudd Gryg yn haeddu cael ei gydnabod, nid fel cocyn hitio i\u2019w gyfoeswr enwocach yn yr ymryson adnabyddus a fu rhyngddynt, ond fel bardd mentrus, ffraeth ac amryddawn yn ei rinwedd ei hun. Ceir yn y gyfrol hon rai o\u2019r cywyddau hynotaf a luniwyd erioed, megis y cerddi a ganodd Gruffudd i\u2019r lleuad ac i\u2019r don tra oedd ar bererindod i Santiago de Compostela yn Sbaen, y cywydd cymod cyntaf a\u2019r cywydd mawl cyntaf i fro sydd ar glawr (i Ynys M\u00f4n, man geni\u2019r bardd), ac yn enwedig y ddwy farwnad soffistigedig ac amlhaenog a gyflwynodd Gruffudd i Ddafydd ap Gwilym. A gladdwyd Dafydd mewn gwirionedd dan ywen yn Ystrad-fflur, fel yr honna Gruffudd? Ceir ymdriniaeth newydd \u00e2\u2019r pwnc yn y gyfrol hon. Nid dyna\u2019r unig gwestiwn pigog a gaiff sylw ychwaith: dadleuir bod yn rhaid ailystyried o\u2019r cwr natur ac arwyddoc\u00e2d yr ymryson a fu rhwng y ddau fardd. Gwelir yma hefyd ganu mawl, canu crefyddol a chanu serch, a chyfres o englynion enigmatig sy\u2019n ymwneud ag achos llys yn sir Gaerfyrddin.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6394,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"product_brand":[],"product_cat":[44,43],"product_tag":[],"class_list":{"0":"post-6395","1":"product","2":"type-product","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"product_cat-cyhoeddiadau-diweddar","7":"product_cat-y-ganolfan-geltaidd","9":"first","10":"instock","11":"purchasable","12":"product-type-simple"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product\/6395","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product"}],"about":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/product"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6395"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6394"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6395"}],"wp:term":[{"taxonomy":"product_brand","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_brand?post=6395"},{"taxonomy":"product_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_cat?post=6395"},{"taxonomy":"product_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_tag?post=6395"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}