{"id":6587,"date":"2019-03-07T14:18:21","date_gmt":"2019-03-07T14:20:20","guid":{"rendered":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/?post_type=product&#038;p=6587"},"modified":"2019-05-29T13:02:41","modified_gmt":"2019-05-29T12:02:41","slug":"gwaith-prydydd-breuan-a-cherddi-dychan-eraill","status":"publish","type":"product","link":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/cynnyrch\/gwaith-prydydd-breuan-a-cherddi-dychan-eraill\/","title":{"rendered":"Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill"},"content":{"rendered":"","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>Golygwyd gan: Huw Meirion Edwards<\/p>\n<p>Cyhoeddwyd: 2000<\/p>\n<p>ISBN: 978-0-947531-21-8<\/p>\n<p>Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru<\/p>\n<p>Maint: 234 x 156mm<\/p>\n<p>Fformat: Clawr papur, xvii+155<\/p>\n<p>Cyhoeddir yn y gyfrol hon waith rhai o feirdd dychan y bedwaredd ganrif ar ddeg y cedwir eu gwaith yn Llyfr Coch Hergest. Cadwyd pedair cerdd wrth enw Prydydd Breuan, bardd tra medrus a hanai, mae\u2019n debyg, o Ddyffryn Breuan yng ngogledd sir Benfro. Y mae\u2019r gyntaf yn awdl fawl draddodiadol i Faredudd o Ynys Derllys, ond gwahanol iawn yw\u2019r tair cerdd arall a gadwyd: awdl ddychan i \u0175r o\u2019r enw Tarre, a oedd o bosibl yn delynor; awdl ddychan filain bersonol i Siwan Morgan o Aberteifi, lle yr ymddengys fod y bardd yn talu\u2019r pwyth am dwyll y ferch hon yn ei erbyn; ac yn olaf, englyn proest gorchestol yn dychanu Coch y Delyn. Cadwyd un gerdd yr un wrth enwau Rhys ap Dafydd ab Einion a Hywel Ystorm: y naill yn gyfres o englynion sy\u2019n dychanu lleidr o\u2019r enw Sawl ac yn perthyn i draddodiad o ddychanu lladron, a\u2019r llall yn awdl ddychan faith a lliwgar i Addaf Eurych a wawdir fel crefftwr s\u00e2l, ac fel clerwr ymffrostgar hefyd. Y mae\u2019r pum cerdd arall a gyhoeddir yma yn gerddi dienw i gymeriadau anhysbys. Fodd bynnag, cyfeirir yn y ddwy gyntaf at y Gogledd-ddwyrain a M\u00f4n, yn y drydedd at Forgannwg, ac yn yr olaf at ardal Llandyb\u00efe yn sir Gaerfyrddin. O ran eu harddull, eu geirfa frith, eu delweddaeth fras a\u2019u gormodiaith ddigywilydd, y mae\u2019r cerddi hyn yn debyg i ddychangerddi eraill y gyfrol hon, ac yn nodweddiadol o\u2019r corff hynod o ganu dychan a ddiogelwyd rhwng cloriau Llyfr Coch Hergest. Ceir elfen amlycach o gellwair a thynnu coes yn y ddwy gerdd olaf, sy\u2019n eu gosod, efallai, yn yr un math o draddodiad \u00e2 defod y cyff cl\u00ear.<\/p>\n<p>&nbsp;<\/p>\n","protected":false},"featured_media":6586,"comment_status":"open","ping_status":"closed","template":"","meta":[],"product_brand":[],"product_cat":[43,44],"product_tag":[],"class_list":{"0":"post-6587","1":"product","2":"type-product","3":"status-publish","4":"has-post-thumbnail","6":"product_cat-y-ganolfan-geltaidd","7":"product_cat-cyhoeddiadau-diweddar","9":"first","10":"instock","11":"purchasable","12":"product-type-simple"},"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product\/6587","targetHints":{"allow":["GET"]}}],"collection":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product"}],"about":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/product"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=6587"}],"wp:featuredmedia":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media\/6586"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=6587"}],"wp:term":[{"taxonomy":"product_brand","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_brand?post=6587"},{"taxonomy":"product_cat","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_cat?post=6587"},{"taxonomy":"product_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/shop.wales.ac.uk\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/product_tag?post=6587"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}