You must be logged in to post a review.
Gwaith Syr Dafydd Trefor
£10.00
Golygwyd gan: Rhiannon Ifans
Cyhoeddwyd: 2005
ISBN: 978-0-947531-82-9
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Maint: 234 x 156mm
Fformat: Clawr papur, xxi+249
Cyflwynir yn y gyfrol hon gynnyrch barddol Syr Dafydd Trefor, rheithor Llaneugrad a Llanallgo ym Môn, a bardd yn ei amser hamdden. Gellir mentro cynnig c.1460 yn ddyddiad ei eni, a c.1528 yn ddyddiad ei farwolaeth o’r Pla Du, yn henddyn (yn ei oes) tua 68 oed. Ymhlith ei gerddi hynod amrywiol ceir cywyddau mawl a marwnad; nifer o gywyddau gofyn – un yn deisyf un o dair telyn Edward Sirc ac o bosibl yn cyfeirio at un o alawon Robert ap Huw ‘Cainc Dafydd Broffwyd’; yn ogystal â chywyddau crefyddol (er nad cymaint â’r disgwyl), yn eu plith folawd hyfryd i Santes Dwynwen, nawddsantes cariadon Cymru.
Offeiriad Catholig i’r uchelwyr oedd Syr Dafydd Trefor. Gyda’r bonedd a’u bywyd bras y mwynhâi dreulio’i amser, a chyda’u hoffter o bleserau’r byd hwn yr oedd yn ymdroi er iddo ganu i fyrdra bywyd a byrhoedledd ei wychder. Efallai mai’r elfen gymdeithasol-hanesyddol hon fydd atyniad pennaf gwaith Syr Dafydd Trefor gan fod ei gerddi yn ddrych diddorol o fywyd offeiriad diwylliedig ym Môn yn union cyn y Diwygiad Protestannaidd.
Reviews
There are no reviews yet.