Danfon

Opsiynau Cludiant

Opsiynau cyflawni Cost
Cludiant Cofnodedig yn y DU £3.50
Cludiant Cofnodedig yr UE £9.00
Cludiant Cofnodedig Rhyngwladol £11.00
Cludiant gan DHL £30.00

Cludiant Cofnodedig yn y DU

Anfonir archebion drwy Gludiant Cofnodedig y Post Brenhinol neu Parcelforce a dylid eu derbyn o fewn 2 – 3 diwrnod o’r dyddiad anfon.

Cludiant Cofnodedig Rhyngwladol

Anfonir archebion rhyngwladol trwy bost Cofnodedig Rhyngwladol y Post Brenhinol neu Parcelforce a dylid eu derbyn o fewn 3 – 10 diwrnod o’r dyddiad danfon, yn dibynnu ar y cyrchfan. Anfonir yr archebion drwy’r Gwasanaeth Blaenoriaeth Byd-eang.

Cludiant Cofrestredig yr UE

Anfonir archebion o fewn yr UE trwy bost Cofnodedig Rhyngwladol y Post Brenhinol neu Parcelforce a dylid eu derbyn o fewn 3 – 10 diwrnod o’r dyddiad danfon, yn dibynnu ar y cyrchfan. Anfonir yr archebion drwy’r Gwasanaeth Blaenoriaeth Ewropeaidd.

Cludiant gan DHL

Disgwylir i eitemau a anfonir gan gludwyr DHL gyrraedd o fewn 2 – 3 diwrnod, yn dibynnu ar y cyrchfan. Darperir manylion tracio ar ôl i’ch archeb gael ei hanfon a gellir tracio’r parsel ar wefan DHL.

DOSBARTHU
(a) Bydd y Prifysgol Cymru yn dosbarthu’r Nwyddau a archebwyd i’r cyfeiriad a bennwyd gan y Cwsmer a phan fyddant wedi’u dosbarthu i’r cyfeiriad hwnnw fe freinir y risg yn Nwyddau a’r cyfrifoldeb drostynt yn y Cwsmer neu, os yw’r Cwsmer yn methu ar gam â chymryd y Nwyddau, yr adeg y mae’r Prifysgol Cymru wedi cyflwyno’r Nwyddau i’w dosbarthu.

(b) Amcangyfrif busnes yn unig yw unrhyw ddyddiad anfon neu amser dosbarthu a bennir, ac ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol am unrhyw golled a ddioddefir oherwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio ag ef.

(c) Gall y Prifysgol Cymru ddosbarthu’r Nwyddau cyn y dyddiad dosbarthu a ddyfynnwyd os yw rhybudd rhesymol wedi’i roi i’r cwsmer.

(d) Os yw’n ofynnol cyflymu’r dosbarthu neu’r postio, gwneir pob ymdrech i ddosbarthu o fewn yr amser a ddyfynnwyd ond ni roir unrhyw warant ynghylch hynny, ac ni chymerir mai amser yw hanfod y contract. Os bydd y dosbarthu neu’r postio’n golygu tynnu costau ychwanegol, fe godir tâl i dalu am y cynnydd yn y gost, gan gynnwys treuliau neu gostau eraill gan gynnwys goramser a chyflogau.

(e) Yn amodol ar unrhyw delerau arbennig y cytunwyd arnynt yn Ysgrifenedig rhwng y Cwsmer a’r Prifysgol Cymru, bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu’r Cwsmer am bris y Nwyddau adeg dosbarthu’r Nwyddau neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny onid yw’r Nwyddau i gael eu casglu gan y Cwsmer neu onid yw’r Cwsmer yn methu ar gam â chymryd y Nwyddau adeg eu dosbarthu, ac os digwydd yr olaf bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu’r Cwsmer am y pris ar unrhyw adeg ar ôl i’r Prifysgol Cymru hysbysu’r Cwsmer fod y Nwyddau’n barod i gael eu casglu neu (fel y bo’r achos) fod y Prifysgol Cymru wedi ceisio dosbarthu’r Nwyddau.