Gwaith Hywel Dafi I

£10.00

Awdur/Golygydd: A. Cynfael Lake

Cyhoeddwyd: 2015

ISBN: 978-1-907029-12-7

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xv+368

Cyfrol un o’r golygiad o ganu Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys, neu Hywel Dafi fel y cyfeirir ato fynychaf, bardd o Frycheiniog a oedd yn ei flodau rhwng tua 1440 a 1485. Er ei fod yn un o feirdd mwyaf toreithiog y bymthegfed ganrif, ychydig o sylw a gafodd, a dyrnaid yn unig o’i gerddi a ymddangosodd mewn print. Ar sail ei ymrysonau â beirdd eraill, Guto’r Glyn yn benodol, yr ymenwogodd, yn hytrach nag ar sail ei ganu mawl a marwnad i’w noddwyr, y rhan fwyaf ohonynt yn byw o fewn rhyw bymtheng milltir i dref Aberhonddu. Y mae’r golygiad hwn yn llenwi bwlch pwysig a gobeithio y bydd cyhoeddi’r cerddi yn rhoi cyfle i werthfawrogi cyfraniad unigryw Hywel Dafi i draddodiad mawl yr Oesoedd Canol diweddar. Daw i’r amlwg fod i’r bardd a’i ganiadau le pwysig iawn yn y rhan hon o Gymru yn y bymthegfed ganrif.

 

 

SKU: ISBN: 978-1-907029-20-2 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Hywel Dafi I”