You must be logged in to post a review.
Gwaith Maredudd ap Rhys a’i Gyfoedion
£10.00
Golygwyd gan: Enid Roberts
Cyhoeddwyd: 2003
ISBN: 978-0-947531-46-1
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Maint: 234 x 156mm
Fformat: Clawr papur, xxvi+157
Cynhwysir yn y gyfrol hon holl waith Maredudd ap Rhys, bardd a oedd â chysylltiad agos ag ardal Mathrafal ym Mhowys. Yr oedd hefyd yn offeiriad, ac yn ystod ei yrfa daliodd swyddi megis ficeriaeth Rhiwabon a rheithoriaethau y Trallwm a Meifod. Yn ôl traddodiad ef oedd athro barddol Dafydd ab Edmwnd. Canodd ar amrywiaeth eang o bynciau, yn ganu mawl, canu gofyn a diolch, cerddi natur, serch a brud yn ogystal â chanu crefyddol a cherdd o fawl i Grog enwog Caerlleon. Cynhwysir yma hefyd enghreifftiau o waith Ifan Fychan ab Ifan ab Adda a Syr Rhys o Lanbryn-Mair a Charno, dau o gyfoedion Maredudd ap Rhys a ganodd yn rhai o’r un cylchoedd ag ef.
Reviews
There are no reviews yet.