You must be logged in to post a review.
‘Wedded to her Art’: Margaret Lindsay Williams 1888–1960
£7.99
Awdur: Angela Gaffney
Cyhoeddwyd: 1999
ISBN: 0 947531 80 7
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Fformat: Clawr papur, 52 tt.
Yn ei hatgofion anghyhoeddedig cyfaddefodd yr arlunydd Margaret Lindsay Williams, a oedd yn enedigol o Gaerdydd, ei bod wedi treulio rhan helaeth o’i gyrfa yn sicrhau bod ei gwaith yn haeddu cydnabyddiaeth. Er iddi ennill enwogrwydd haeddiannol yn ystod ei hoes, ychydig o sylw a gafodd wedi ei marwolaeth ym 1960. Dyma’r astudiaeth gyntaf o’r arlunwraig broffesiynol hynod dalentog hon, a ddisgrifiwyd yn y Western Mail fel ‘the famed Welsh Royal Portrait Painter’. Peintiodd Margaret Lindsay Williams rai o sêr y llwyfan a’r sgrin, gwleidyddion, milwyr, diwydianwyr ac aelodau o’r teulu brenhinol, a chyfeiriai’r papurau newydd ati yn aml fel llysgennad i Gymru. Y mae’r gyfrol ddeniadol hon yn taflu goleuni newydd ar Gymraes nodedig iawn.
Reviews
There are no reviews yet.