You must be logged in to post a review.
Welsh Prophecy and English Politics in the Late Middle Ages
£2.00
Awdur: Helen Fulton
Cyhoeddwyd: 2008
ISBN: 978-0-947531-83-6
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Maint: 247 x 148 mm
Fformat: Clawr papur, 41 tt.
Yn y ddarlith hon y mae Helen Fulton yn trafod daroganau rhyddiaith Cymraeg yn dyddio o’r Oesoedd Canol Diweddar. Dadleua fod y math hwn o lenyddiaeth wleidyddol yn dangos bod y Cymry yn gyfarwydd â dadleuon cyfoes yn Lloegr ynghylch ymerodraeth, brenhiniaeth ac olyniaeth, a bod daroganau gwleidyddol Saesneg a Lladin yn hysbys iddynt. Y mae’n cymharu traddodiad Sieffre o Fynwy â’r traddodiad Cymreig, ac yn trafod yn fanwl ddau fersiwn Cymraeg o broffwydoliaeth Saesneg, sef ‘Darogan y Chwe Brenin’ a ‘Y Broffwydoliaeth Fer’. Cynhwysir ei golygiad a’i chyfieithiad o’r ddwy broffwydoliaeth hyn yn yr Atodiad.
Reviews
There are no reviews yet.