Os archebir unrhyw eitem drwy’n gwefan, bydd y feddalwedd yn cydnabod yr archeb yn awtomatig, ond ni fydd hynny’n golygu bod contract pendant rhyngom. Gwneir contract pan gaiff y nwyddau eu hanfonebu a’u hanfon atoch gan Prifysgol Cymru. Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
Mae’r telerau busnes isod yn dileu pob fersiwn blaenorol.
1. DIFFINIADAU
Ystyr y ‘Wasg’ yw Prifysgol Cymru sy’n masnachu fel Gwasg Prifysgol Cymru.
Ystyr y ‘Cwsmer’ yw’r person, y cwmni neu’r Wasg y gwneir contract ag ef neu hi i gyflenwi Nwyddau.
Ystyr ‘Cludydd’ yw’r cludydd a benodwyd gan y Wasg i ddosbarthu’r nwyddau i’r Cwsmer.
Ystyr ‘Nwyddau’ yw’r nwyddau (gan gynnwys unrhyw ran-ddosbarthiad o’r nwyddau) y mae’r Wasg i’w cyflenwi yn unol â’r Amodau hyn.
Ystyr ‘Telerau’ yw’r telerau a’r amodau gwerthu safonol a nodir yn y ddogfen hon a/neu fel y’u hailgyhoeddir neu y’u hadolygir gan y Wasg o bryd i’w gilydd ac (onid yw’r cyd-destun yn mynnu fel arall) maent yn cynnwys unrhyw delerau ac amodau arbennig y cytunwyd arnynt yn ysgrifenedig rhwng y Wasg a’r Cwsmer.
Ystyr ‘Contract’ yw’r contract i brynu a gwerthu’r Nwyddau.
Mae ‘Ysgrifenedig’ yn cynnwys telex, cebl, trosglwyddiad ffacsimile a dulliau cyfathrebu tebyg.
2. SAIL Y GWERTHU
(a) Nid yw gweithwyr cyflog nac asiantau’r Prifysgol Cymru wedi’u hawdurdodi i wneud unrhyw sylwadau am y Nwyddau onid yw’r rheiny wedi’u cadarnhau gan y Prifysgol Cymru yn Ysgrifenedig. Wrth ymrwymo i’r Contract, mae’r Cwsmer yn cydnabod nad yw’n dibynnu ar unrhyw sylwadau o’r fath sydd heb eu cadarnhau felly.
(b) Os bydd y Cwsmer yn dilyn neu’n gweithredu unrhyw gyngor neu argymhelliad a roir gan y Prifysgol Cymru neu ei gweithwyr cyflog neu ei hasiantau i’r Cwsmer neu ei weithwyr cyflog neu ei asiantau ynghylch storio, cymhwyso neu ddefnyddio’r Nwyddau, a’r cyngor neu’r argymhelliad hwnnw heb ei gadarnhau’n Ysgrifenedig gan y Prifysgol Cymru, fe wna’r Cwsmer hynny’n llwyr ar ei risg ei hun, ac felly ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol am unrhyw gyngor neu argymhelliad o’r fath sydd heb ei gadarnhau felly.
(c) Bydd unrhyw wall teipio, gwall clerigol neu wall arall neu unrhyw beth a hepgorwyd mewn unrhyw lenyddiaeth gwerthu, dyfynbris, rhestr brisiau, derbyn cynnig, anfoneb neu ddogfen arall neu wybodaeth a roir gan y Prifysgol Cymru yn agored i’w gywiro neu ei chywiro heb fod unrhyw atebolrwydd ar ran y Prifysgol Cymru.
3. ARCHEBION A MANYLEBAU
(a) Fe gymerir na fydd unrhyw archeb a gyflwynir gan y Cwsmer wedi’i derbyn gan y Prifysgol Cymru onid yw’r Prifysgol Cymru yn rhoi anfoneb a than y gwnaiff hi hynny.
(b) Bydd y Cwsmer yn atebol i’r Prifysgol Cymru am sicrhau cywirdeb telerau’r archeb (gan gynnwys unrhyw fanyleb gymwys) a gyflwynwyd gan y Cwsmer, ac am roi i’r Prifysgol Cymru unrhyw wybodaeth angenrheidiol am y Nwyddau o fewn amser sy’n rhesymol i alluogi’r Prifysgol Cymru i gyflawni’r Contract yn unol â’i thelerau.
4. DOSBARTHU
(a) Bydd y Prifysgol Cymru yn dosbarthu’r Nwyddau a archebwyd i’r cyfeiriad a bennwyd gan y Cwsmer a phan fyddant wedi’u dosbarthu i’r cyfeiriad hwnnw fe freinir y risg yn Nwyddau a’r cyfrifoldeb drostynt yn y Cwsmer neu, os yw’r Cwsmer yn methu ar gam â chymryd y Nwyddau, yr adeg y mae’r Prifysgol Cymru wedi cyflwyno’r Nwyddau i’w dosbarthu.
(b) Amcangyfrif busnes yn unig yw unrhyw ddyddiad anfon neu amser dosbarthu a bennir, ac ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol am unrhyw golled a ddioddefir oherwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio ag ef.
(c) Gall y Prifysgol Cymru ddosbarthu’r Nwyddau cyn y dyddiad dosbarthu a ddyfynnwyd os yw rhybudd rhesymol wedi’i roi i’r cwsmer.
(d) Os yw’n ofynnol cyflymu’r dosbarthu neu’r postio, gwneir pob ymdrech i ddosbarthu o fewn yr amser a ddyfynnwyd ond ni roir unrhyw warant ynghylch hynny, ac ni chymerir mai amser yw hanfod y contract. Os bydd y dosbarthu neu’r postio’n golygu tynnu costau ychwanegol, fe godir tâl i dalu am y cynnydd yn y gost, gan gynnwys treuliau neu gostau eraill gan gynnwys goramser a chyflogau.
(e) Yn amodol ar unrhyw delerau arbennig y cytunwyd arnynt yn Ysgrifenedig rhwng y Cwsmer a’r Prifysgol Cymru, bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu’r Cwsmer am bris y Nwyddau adeg dosbarthu’r Nwyddau neu ar unrhyw adeg ar ôl hynny onid yw’r Nwyddau i gael eu casglu gan y Cwsmer neu onid yw’r Cwsmer yn methu ar gam â chymryd y Nwyddau adeg eu dosbarthu, ac os digwydd yr olaf bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i anfonebu’r Cwsmer am y pris ar unrhyw adeg ar ôl i’r Prifysgol Cymru hysbysu’r Cwsmer fod y Nwyddau’n barod i gael eu casglu neu (fel y bo’r achos) fod y Prifysgol Cymru wedi ceisio dosbarthu’r Nwyddau.
5. TALU
(a) Yn absenoldeb unrhyw gytundeb i’r gwrthwyneb, y telerau talu caeth yw bod yr arian i gyrraedd y Prifysgol Cymru erbyn 30 diwrnod fan bellaf ar ôl dyddiad yr anfoneb.
(b) Mae’r Prifysgol Cymru yn cadw’r hawl ar unrhyw adeg yn ei disgresiwn llwyr i fynnu bod unrhyw anfoneb yn cael ei thalu ar unwaith, boed ddyledus neu beidio.
(c) Ni fydd talu i unrhyw drydydd parti yn rhyddhau’r Cwsmer rhag ei atebolrwydd o dan unrhyw gontract â’r Prifysgol Cymru.
(d) Ni fydd gan y Cwsmer yr hawl i ddal y cyfan neu ran o daliad yn ôl am y rheswm fod ganddo hawliad, gwrth-hawliad neu wrth-gyfrif yn erbyn y Prifysgol Cymru.
(e) Os yw’r Cwsmer yn methu â gwneud unrhyw daliad ar y dyddiad dyledus, yna, heb ragfarnu unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd ar gael i’r Prifysgol Cymru, bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl:
(i) i ganslo’r contract neu i atal unrhyw ddosbarthu pellach i’r Cwsmer;
(ii) i berchnogi unrhyw daliad a wnaed gan y Cwsmer am unrhyw rai o’r Nwyddau (neu’r nwyddau a gyflenwyd o dan unrhyw gontract arall rhwng y Cwsmer a’r Prifysgol Cymru) ag y gwêl y Prifysgol Cymru yn dda (er gwaethaf unrhyw berchnogi honedig gan y Cwsmer); a
(iii) i godi llog ar y Cwsmer (cyn ac ar ôl unrhyw ddyfarniad) am y swm sydd heb ei dalu, a hynny ar gyfradd o ddau y cant y flwyddyn uwchlaw cyfradd sylfaenol y Banc Midland o bryd i’w gilydd, tan y gwneir y taliad llawn (gan drin rhan o fis fel mis llawn at ddibenion cyfrifo’r llog).
6. HAWLIADAU
(a) Ni fydd y Prifysgol Cymru yn derbyn unrhyw hawliad am fethu â dosbarthu, am ddosbarthu’n hwyr neu am ddosbarthu nwyddau sy’n llai na’r nifer neu’r swm a nodwyd ar yr anfoneb, nac am ddifrod neu fân-ddwyn
(i) onid yw’r hawliad yn cydymffurfio’n gaeth â’r gweithdrefnau a nodir isod a
(ii) onid yw’r Cwsmer yn rhoi’r holl awdurdod a’r cymorth angenrheidiol i’r Prifysgol Cymru i’w galluogi i brosesu’r hawliad yn erbyn y Cludydd. Gall methu â chydymffurfio’n gaeth â’r gofynion hyn arwain at wrthod neu oedi hawliadau. Ni fydd atebolrwydd y Prifysgol Cymru o dan unrhyw amgylchiadau yn fwy na gwerth y Nwyddau a gollwyd neu a ddifrodwyd.
(b) Hawliadau am fethu â dosbarthu: Os na fydd y Nwyddau wedi cyrraedd cyn pen 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl dyddiad cael yr anfoneb, rhaid hysbysu’r Prifysgol Cymru yn syth ac yn ysgrifenedig o hynny gan roi’r manylion llawn.
(c) Ceisiadau am brawf o’r dosbarthu: Os gofynnir i’r Prifysgol Cymru gyflwyno prawf o’r dosbarthu, mae’r Prifysgol Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl ar y Cwsmer am y costau gweinyddol a’r treuliau a dynnir wrth gyflwyno’r prawf hwnnw ac eithrio lle gellir dangos nad yw’r nwyddau wedi’u dosbarthu.
(d) Hawliadau am brinder, mân-ddwyn neu ddifrod: Dylid archwilio tu allan pob defnydd pacio, casyn ac ati pan gaiff ei ddosbarthu, a hynny ym mhresenoldeb y Cludydd. Os yw’r nwyddau a ddosbarthwyd yn wahanol i’r hyn a bennwyd ar yr anfoneb neu os yw’n ymddangos y bu ymyrryd â’r nwyddau neu ddifrod iddynt, dylid cofnodi hynny ar daflen ddosbarthu’r Cludydd, a hysbysu’r Prifysgol Cymru a’r Cludydd cyn pen 24 awr. Os yw pecynnau’n ymddangos fel petaent mewn cyflwr boddhaol, dylid rhoi llofnod clir. Dylid dadbacio a gwirio’r cynnwys ar unwaith, a hysbysu am unrhyw brinder neu ddifrod cyn pen 24 awr, yn ysgrifenedig i’r Prifysgol Cymru, gan roi’r manylion llawn.
7. DYCHWELYD NWYDDAU I’R Prifysgol Cymru GAN GWSMERIAID
(a) Nid yw’r Prifysgol Cymru o dan unrhyw rwymedigaeth i dderbyn dychwelyd Nwyddau oddi wrth Gwsmeriaid ac ni ddylid dychwelyd unrhyw Nwyddau o’r fath heb gael caniatâd ysgrifenedig y Prifysgol Cymru ymlaen llaw.
(b) Mae’r Prifysgol Cymru yn cadw’r hawl i godi tâl gweinyddol ar y Cwsmer mewn perthynas â dychwelyd eitemau heb awdurdod i wneud hynny.
(c) Os dychwelir Nwyddau, mae’r Prifysgol Cymru yn cadw’r hawl i enwebu ei Chludydd ei hun i ddychwelyd y nwyddau i’r Prifysgol Cymru.
8. EIDDO
Er i’r Nwyddau gael eu dosbarthu i’r Cwsmer:
(a) Rhaid i’r teitl ecwitïol cyfreithiol yn y Nwyddau beidio â throsglwyddo i’r Cwsmer tan i bob swm sydd i’w dalu mewn perthynas â’r Nwyddau a’r holl nwyddau eraill y cytunwyd i’w gwerthu gan y Prifysgol Cymru i’r Cwsmer y mae tâl yna’n ddyledus amdanynt wedi’i dalu.
(b) Caiff y Cwsmer werthu’r Nwyddau drwy werthiant bona fide yng nghwrs arferol ei fusnes ar ei delerau a’i amodau safonol ac os felly bydd y Cwsmer yn eu gwerthu fel asiant i’r Prifysgol Cymru. Ni chaiff y Cwsmer fel arall ddelio â’r Nwyddau, eu gwerthu, ymadael â meddiant ohonynt na chael gwared arnynt fel arall tan i’r teitl iddynt fod wedi’i drosglwyddo i’r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod.
(c) Tan yr amser y trosglwyddir yr eiddo yn y Nwyddau i’r Cwsmer (ac ar yr amod bod y Nwyddau’n dal i fod a heb eu hailwerthu), bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl ar unrhyw adeg i fynnu bod y Cwsmer yn cyflwyno’r Nwyddau i’r Prifysgol Cymru ac, os bydd y Cwsmer yn methu â gwneud hynny’n syth, i fynd i mewn i unrhyw ran o dir neu adeilad y Cwsmer neu unrhyw drydydd parti lle mae’r Nwyddau wedi’u storio ac adfeddiannu’r Nwyddau.
(d) Ni fydd gan y Cwsmer yr hawl i wystlo nac mewn unrhyw ffordd i godi tâl ar ffurf sicrwydd am unrhyw ddyled unrhyw un neu rai o’r Nwyddau sy’n aros yn eiddo i’r Prifysgol Cymru, ond os gwna’r Cwsmer hynny bydd pob arian sydd ar y Cwsmer i’r Prifysgol Cymru (heb ragfarnu unrhyw hawl neu rwymedi arall sydd gan y Prifysgol Cymru) yn ddyledus ac yn daladwy’n syth.
(e) Os gwerthir unrhyw un neu rai o’r nwyddau i drydydd parti cyn i’r teitl ynddynt fod wedi’i drosglwyddo i’r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod, bydd y gwerthiant hwnnw’n werthiant gan y Cwsmer o eiddo’r Prifysgol Cymru ac felly bydd y Cwsmer yn atebol i’r Prifysgol Cymru am ffrwyth y gwerthiant hyd at y cyfanswm sy’n ddyledus mewn perthynas â’r Nwyddau a than y cyflwynir y cyfrif hwnnw bydd yn dal yr eiddo ar ymddiried i’r Prifysgol Cymru.
(f) Tan i’r teitl gael ei drosglwyddo i’r Cwsmer yn unol ag 8(a) uchod, rhaid i’r Cwsmer gadw’r Nwyddau wedi’u hyswirio’n llawn ac os caiff y nwyddau eu colli, eu difrodi neu ddinistrio rhaid iddo gadw arian yr yswiriant ar gyfer y Prifysgol Cymru ac yn unol â gorchymyn y Prifysgol Cymru tan iddo dalu’n llawn am y nwyddau.
(g) Bydd gan y Prifysgol Cymru yr hawl i gynnal achos am bris y Nwyddau, er nad yw’r eiddo ynddynt wedi’i drosglwyddo i’r Cwsmer.
9. CYFYNGIAD AR ATEBOLRWYDD
(a) Ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol i’r Cwsmer ac ni thybir ei bod yn torri’r Contract oherwydd unrhyw oedi wrth gyflawni, neu unrhyw fethiant i gyflawni, unrhyw un o rwymedigaethau’r Prifysgol Cymru mewn perthynas â’r Nwyddau, os oedd yr oedi neu’r methiant i’w briodoli i unrhyw achos y tu hwnt i reolaeth resymol y Prifysgol Cymru. Heb ragfarnu ystyr gyffredinol yr uchod, rhaid ystyried y canlynol fel achosion sydd y tu hwnt i reolaeth resymol y Prifysgol Cymru:
(i) Gweithred gan Dduw, ffrwydrad, llif, tymestl, tân neu ddamwain;
(ii) rhyfel neu fygythiad o ryfel, difrod, terfysg, cythrwfl sifil neu atafaelu;
(iii) gweithredoedd, cyfyngiadau, rheoliadau, is‑ddeddfau, gwaharddiadau neu fesurau o unrhyw fath gan unrhyw awdurdod llywodraethol, seneddol neu leol;
(iv) rheoliadau neu waharddiadau ar fewnforio neu allforio;
(v) streiciau, cloi allan neu unrhyw weithredu diwydiannol neu anghydfodau masnach eraill (boed hwy’n cynnwys gweithwyr cyflog y Prifysgol Cymru neu weithwyr cyflog trydydd parti);
(vi) trafferthion wrth sicrhau defnyddiau crai, llafur, tanwydd, rhannau neu beirianwaith;
(vii) methiant pŵer neu beirianwaith yn diffygio.
(b) Os yw’r Nwyddau’n ddiffygiol am unrhyw reswm neu wedi’u colli neu wedi’u difrodi caiff unig a llwyr rwymedi’r Cwsmer ac unig atebolrwydd y Prifysgol Cymru (os o gwbl) ei gyfyngu’n benodol, yn ôl dewis y Prifysgol Cymru, i gywiro’r diffyg, darparu Nwyddau newydd yn lle’r rhai a gollwyd neu a ddifrodwyd, neu ad-dalu’r pris prynu a dalwyd i’r Prifysgol Cymru, ac ni chaiff unrhyw gywiro neu unrhyw ddarparu eitem yn lle’r eitem a gollwyd neu a ddifrodwyd fod yn fwy na’r pris prynu a dalwyd i’r Prifysgol Cymru am yr eitem ddiffygiol ei hun.
(c) Ni fydd y Prifysgol Cymru beth bynnag yn atebol mewn perthynas ag unrhyw golled anuniongyrchol neu golled neu ddifrod dilynol a ddaw i ran y Cwsmer boed yn deillio o’r Cytundeb hwn neu mewn cysylltiad ag ef. Bydd “colled ddilynol” yn cynnwys colli elw, defnydd neu ewyllys da (neu gost ariannol debyg), unrhyw daliad a wnaed neu sy’n ddyledus i drydydd parti, ac unrhyw golled neu ddifrod a achosir gan wallau neu gan oedi wrth ddosbarthu.
(d) Caiff pob disgrifiad, sylw, manyleb, sampl, lliw, llun a manylion eraill a gyflwynir neu a wneir ar lafar gan y Prifysgol Cymru neu mewn catalogau, llenyddiaeth fasnach, rhestri prisiau neu ddogfennau eraill a gyhoeddir gan y Prifysgol Cymru ei roi neu ei rhoi neu eu rhoi er gwybodaeth gyffredinol yn unig ac mae’r Cwsmer yn cydnabod nad yw’n dibynnu ar unrhyw ddisgrifiad, sylw, manyleb, sampl neu fanylyn arall o’r fath wrth ymrwymo i’r contract.
(e) Ac eithrio i’r graddau y darperir yn benodol ar eu cyfer yn yr Amodau hyn, ni fydd y Prifysgol Cymru yn atebol boed mewn contract, tort neu fel arall am unrhyw golled, difrod neu anaf sut bynnag y’i hachoswyd neu a gododd o unrhyw ddiffyg yn y Nwyddau, unrhyw fethiant ynddynt neu unrhyw anaddasrwydd at unrhyw ddiben.
10. GWYBODAETH A DATA
(a) Gall y Prifysgol Cymru yn ei disgresiwn llwyr gyflenwi adroddiadau rheoli i’r Cwsmer i helpu’r Cwsmer i werthuso’i ofynion am y nwyddau sydd i’w cyflenwi gan y Prifysgol Cymru. Cyflenwir adroddiadau rheoli er cyfarwyddyd yn unig ac nid yw’r Prifysgol Cymru yn gwneud unrhyw honiad ynghylch cywirdeb y wybodaeth sydd wedi’i chynnwys mewn adroddiadau rheoli.
(b) Mae’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys yn yr adroddiadau rheoli a’r holl wybodaeth sydd wedi’i choladu neu wedi’i ddadansoddi gan y Prifysgol Cymru ar ran y Cwsmer yn gyfrinachol. Ni chaiff y Cwsmer, heb iddo gael caniatâd ysgrifenedig y Prifysgol Cymru ymlaen llaw, ddatgelu unrhyw wybodaeth o’r fath i unrhyw drydydd parti, na defnyddio at unrhyw ddiben (heblaw gwerthuso’i ofynion am nwyddau sydd i’w cyflenwi gan y Prifysgol Cymru).
(c) Ac eithrio fel y darparwyd neu y cytunwyd arno yng nghymal 10(a) uchod ni fydd yn ofynnol i’r Prifysgol Cymru roi i’r Cwsmer wybodaeth fel y’i coladwyd ac y’i dadansoddwyd gan y Prifysgol Cymru ac fe gymerir bod pob dogfen sy’n cynnwys gwybodaeth o’r fath, fel rhwng y Prifysgol Cymru a’r Cwsmer, yn eiddo i’r Prifysgol Cymru.
11. ANSOLFEDD
(a) Os bydd y Cwsmer yn methu â gwneud taliad o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad y mae’n ddyledus neu’n cyflawni unrhyw weithred arall sy’n torri’r telerau busnes hyn neu os gwneir gorchymyn neu benderfyniad effeithiol i ddirwyn y Cwsmer i ben neu os penodir derbynnydd, derbynnydd gweinyddol, derbynnydd a rheolwr neu swyddog tebyg mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o eiddo, asedau neu ymgymeriad y Cwsmer neu os codir neu os gorfodir atafael, cyflawniad, secwestraeth neu broses arall ar neu yn erbyn unrhyw un neu rai o asedau’r Cwsmer neu os yw’r Cwsmer yn bygwth rhoi’r gorau i gynnal busnes neu’n mynd i ddatodiad neu’n methu â thalu ei ddyledion o fewn ystyr Adran 123 Deddf Ansolfedd 1986 neu os yw’r Cwsmer yn gwneud trefniant neu gompównd â’i gredydwyr neu (os yw’n unigolyn) os cyflwynir deiseb neu os gwneir cais am orchymyn interim neu orchymyn methdaliad neu os yw’r Cwsmer i bob golwg yn fethdalwr, yna daw trwydded y Cwsmer yn 8(b) i ben yn awtomatig ac yn syth a heb rybudd a gall y Prifysgol Cymru, heb ragfarnu unrhyw hawliau neu rwymedïau eraill sydd ar gael iddi, derfynu heb rybudd y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gontract â’r Cwsmer neu atal neu ganslo dosbarthu nwyddau o dano. Os yw’r Nwyddau wedi’u dosbarthu ond os na thalwyd amdanynt bydd y pris yn ddyledus ar unwaith ac i’w dalu er gwaethaf unrhyw gytundeb neu drefniant blaenorol â’r Prifysgol Cymru.
(b) Er hyrwyddo 8(a) mae’r Cwsmer yn rhoi i’r Prifysgol Cymru awdurdod di-alw’n ôl i fynd i mewn i dir ac adeiladau’r Cwsmer heb rybudd i gasglu’r Nwyddau a’u symud oddi yno.
12. CYFFREDINOL
(a) Er hwylustod yn unig y mae’r penawdau yn yr Amodau hyn ac ni fyddant yn effeithio ar y dehongliad ohonynt.
(b) Mae’r Telerau’n gymwys i bob archeb a roir i’r Prifysgol Cymru ac mae’r archebion hynny’n ddarostyngedig i’w derbyn gan y Prifysgol Cymru. Cymerir bod archebion o’r fath wedi’u gwneud yn ddarostyngedig i’r Telerau a bydd y Telerau’n drech nag unrhyw delerau a gyflwynir, a gynigir neu a bennir gan y Cwsmer ar ba ffurf bynnag ac ar ba adeg bynnag, boed yn ysgrifenedig neu ar lafar, boed wedi’u cynnwys mewn unrhyw ffurflen archebu neu fel arall, sydd wedi’u hepgor neu wedi’u hallgáu’n benodol, oni chytunwyd yn benodol arnynt yn ysgrifenedig gan y Prifysgol Cymru.
(c) Rhaid i unrhyw rybudd y mae’n ofynnol neu y caniateir ei roi gan y naill barti i’r llall o dan y Telerau hyn fod yn ysgrifenedig ac wedi’i gyfeirio i’r parti arall hwnnw yn ei swyddfa gofrestredig neu ei brif le busnes neu unrhyw gyfeiriad arall ag a all fod ar yr adeg berthnasol wedi’i hysbysu yn unol â’r ddarpariaeth hon i’r parti sy’n rhoi’r rhybudd.
(d) Ni chaiff unrhyw hepgoriad gan y Prifysgol Cymru o unrhyw doriad o’r Contract gan y Cwsmer ei ystyried yn hepgoriad o unrhyw doriad ar ôl hynny o’r un ddarpariaeth neu unrhyw ddarpariaeth arall.
(e) Os delir bod unrhyw deler neu ddarpariaeth yn y Telerau hyn yn anghyfreithlon neu’n anorfodadwy, yn gyfan neu’n rhannol, dan unrhyw ddeddfiad neu reolaeth cyfraith, fe gymerir nad yw’r teler hwnnw neu’r ddarpariaeth honno i’r graddau hynny’n rhan o’r Telerau hyn ond nid effeithir ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd gweddill y Telerau hyn.
(f) Ni cheir rhyddhau, diwygio, amrywio nac addasu’r Telerau hyn mewn unrhyw ffordd ac eithrio drwy offeryn Ysgrifenedig sydd wedi’i lofnodi gan swyddog neu gynrychiolydd sydd wedi’i awdurdodi’n briodol gan y Prifysgol Cymru a’r Cwsmer.
13. CYFRAITH
Ac eithrio fel y darperir yn benodol yn y ddogfen hon, fe eithrir drwy hyn bob gwarant, teler ac amod arall boed benodol neu ymhlyg, cyfochrog, statudol neu fel arall ac eithrio’r rhai na ellir drwy statud eu cau allan. Rheolir yr amodau a phob un o delerau penodol eraill y contract yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.