Cwestiynau Cyffredin Gwasanaethau Graddedigion
- Pa mor hir fydd yn ei gymryd i gwblhau archeb?
Mae Prifysgol Cymru’n gwneud pob ymdrech i gwblhau’r holl archebion o fewn 5-10 diwrnod gwaith i dderbyn yr archeb gyflawn, yn amodol ar ymholiadau. Os ceir ymholiad ynghylch yr archeb byddwn yn cysylltu â chi am ragor o wybodaeth.
- Pa ddogfennau y gellir eu darparu i raddedigion a gwblhaodd eu hastudiaethau mewn sefydliad yng Nghymru?
Mae Prifysgol Cymru’n cadw cofnod o ganlyniad terfynol holl raddedigion Prifysgol Cymru a gwblhaodd eu hastudiaethau mewn sefydliad yng Nghymru. Gallwn felly ddarparu cadarnhad o’r dyfarniad a gafwyd a thystysgrif amnewid os yw’r un wreiddiol ar goll.
I gadarnhau, ni allwn ddarparu trawsgrifiad llawn o astudiaethau. Byddai’r ddogfen hon yn cael ei dyroddi gan y sefydliad a fynychwyd os yw’r manylion ar gael o’ch cyfnod astudio. Ewch i’w gwefan am wybodaeth ar sut i wneud hyn.
- Beth yw copïau ardystiedig a beth yw’r gost?
Gallwn ddarparu copïau ardystiedig o’r holl ddogfennau a ddyroddwyd gan Brifysgol Cymru. I gael hyn, dylid uwchlwytho copi o’ch dogfen wreiddiol drwy ein gwefan. Yna caiff ei stampio a’i ddilysu fel copi dilys o’r gwreiddiol a’i anfon yn y post fel bo gofyn. Nodwch mai dim ond dogfennau a ddyroddwyd gan Brifysgol Cymru y gallwn ni eu hardystio. Os cafodd eich trawsgrifiad ei ddyroddi gan y sefydliad ble’r astudioch chi yna bydd angen i chi gysylltu’n uniongyrchol â nhw am ddilysiad.
I gadarnhau, mae angen un taliad yn unig o £10.00 am gopïau ardystiedig o holl ddogfennau Prifysgol Cymru. Os oes angen mwy nag un set o ddogfennau arnoch, nodwch hyn dan ‘Gwybodaeth Ychwanegol’.
- Rwyf i’n cael trafferth uwchlwytho dogfennau i’w hardystio. Beth allaf i ei wneud?
Ar adegau mae ymgeiswyr yn methu ag uwchlwytho’r holl ddogfennau angenrheidiol er eu bod o fewn y terfyn maint a nodir. Os ydych chi’n cael problemau yna uwchlwythwch un dudalen o’r dogfennau sydd eu hangen, ac yna unwaith i chi gwblhau’r archeb a derbyn rhif archeb, ebostiwch weddill y dogfennau i graduateservices@cymru.ac.uk