Gwaith Gruffudd ap Maredudd I

£10.00

Golygwyd gan: Barry J. Lewis

Cyhoeddwyd: 2003

ISBN: 978-0-947531-27-0

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xvii+171

‘Un o’r olaf o’r Gogynfeirdd ac un o’r mawrion’. Y mae geiriau Saunders Lewis yn disgrifio i’r dim le Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd yn hanes llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol. Bardd ydoedd a gydiodd yn nhraddodiadau ei ragflaenwyr yn llysoedd y Tywysogion a’u datblygu ar gyfer oes newydd. Blodeuai Gruffudd ym Môn yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cedwir swmp helaeth o’i waith yn Llyfr Coch Hergest, yn ganu mawl a marwnad, ac yn ganu crefyddol, serch a dychan. Golygir yn y gyfrol hon saith o gerddi mawl a marwnad a ganodd i aelodau o deulu Penmynydd, tylwyth pwysicaf yr ynys yn ei ddyddiau ef a noddwyr i nifer o feirdd blaenllaw y cyfnod, yn eu plith Iolo Goch a Llywelyn Goch ap Meurig Hen. Ceir yma hefyd awdl fawl i noddwr anhysbys sydd, yn ôl pob tebyg, i’w gyfrif yn aelod o’r un teulu.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-27-0 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Gruffudd ap Maredudd I”