Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill

£10.00

Golygwyd gan: Rhiannon Ifans

Cyhoeddwyd: 2000

ISBN: 978-0-947531-16-4

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xxi+359

Teulu o feirdd y cysylltir eu henwau â Phowys ac â Meirionnydd oedd teulu’r Llygliwiaid. Canodd Llywelyn ap Gwilym Lygliw ar y testun ‘Gweledigaeth Pawl yn Uffern’ gan rybuddio yn erbyn dychrynfeydd y byd a ddaw ac annog gwell buchedd yn y byd hwn. Canodd Rhys ap Dafydd Llwyd ap Llywelyn Lygliw gywydd serch yn gofidio ynghylch swildod y bardd yng ngŵydd ei gariad, a chanodd Hywel ab Einion Lygliw awdl foliant enwog i Fyfanwy Fychan o Gastell Dinas Brân yn Llangollen. Yr oedd Hywel ab Einion yn ewythr i Ruffudd Llwyd, un o feirdd pwysicaf Owain Glyndŵr.

Golygwyd yma ddwy ar bymtheg o gerddi o waith Gruffudd Llwyd, ynghyd ag un cywydd serch y tybir ei fod yn gywydd o’i waith. Mawrygwyd Gruffudd Llwyd gan ei gyfoeswyr fel bardd serch a chrefydd. Canodd hefyd gasgliad o gerddi nodedig iawn i uchelwyr Cymreig, yn eu mysg ddau gywydd mawl i Owain Glyndŵr o gyfnod cyn dechrau’r Gwrthryfel ym mis Medi 1400. Canodd yn ogystal i ysblander yr haul, a’r ysblander hwnnw yn ddarlun o oleuni deallusol a chynhesrwydd anian gwŷr Morgannwg.

Dyma fardd dychmygus, dysgedig, a disgybledig. Ysywaeth, fe gollwyd canran uchel o’i waith dros y canrifoedd, ond serch hynny fe gadwyd yn y gyfrol hon flas o waith un o gywyddwyr disgleiriaf ei oes.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-16-4 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Gruffudd Llwyd a’r Llygliwiaid Eraill”