Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan ac Eraill

£10.00

Golygwyd gan: M. Paul Bryant-Quinn

Cyhoeddwyd: 2003

ISBN: 978-0-947531-81-2

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xxii+207

Yn y bymthegfed ganrif yr oedd Dyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd a’u cyffiniau ymhlith ardaloedd mwyaf llenyddol effro Cymru. Yn ogystal â’r beirdd proffesiynol, ceid yma nifer o uchelwyr a ymddiddorai yn y grefft farddol ac yn y gyfrol hon golygir gwaith tri ohonynt. Yr oedd Ieuan ap Llywelyn Fychan yn fardd-uchelwr a gyfarchwyd gan Dudur Aled fel ‘athro’. Perthynas i Dudur oedd Lewys Aled, yntau’n uchelwr o bwys. Serch yw testun y ddau fardd hyn. Ceir gan Ieuan Llwyd Brydydd gerddi amrywiol a diddorol i rai o brif noddwyr gogledd Cymru. Fel y dywedodd Thomas Parry, ymwneud gwŷr fel y rhain â’r gelfyddyd farddol ynghyd â chywreinrwydd a glendid eu crefft ‘… sy’n gwneuthur cyfnod yr uchelwyr yn gyfnod mor wych, os nad y gwychaf oll, yn hanes llenyddiaeth Cymru’.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-81-2 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Ieuan ap Llywelyn Fychan ac Eraill”