Welsh Correspondence of the French Revolution 1789-1802

£15.00

Golygwyd gan: Ffion M. Jones

Cyhoeddwyd: 2018

ISBN: 978-1-907029-29-5

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Fformat: Clawr papur, x+163

Casgliad o lythyrau a ysgrifennwyd yn ystod blynyddoedd y Chwyldro Ffrengig a’r rhyfeloedd ar gyfandir Ewrop a ddaeth yn ei sgil sydd yn y gyfrol Welsh Correspondence of the French Revolution 1789–1802. Mae cysylltiad rhyngddynt oll a Chymru: fe’u hanfonwyd gan neu at bobl yn byw yno, i neu o Ffrainc, Iwerddon, Gogledd America neu Loegr, yn ogystal ag o fewn ffiniau Cymru ei hun. Cynhwysir enwau adnabyddus ochr yn ochr â rhai cwbl ddinod. Agorir y gyfrol gyda llais yr athronydd blaenllaw Richard Price, sy’n ysgrifennu at lysgennad America ym Mharis, Thomas Jefferson, i fynegi ei orfoledd o glywed am y newidiadau eithriadol yn Ffrainc yn ystod haf 1789. Mae llythyrau’r Bedyddiwr Morgan John Rhys yn adrodd am ei ymdrechion i sefydlu addoldai Protestannaidd yn Boulogne-sur-mer a Calais. Daw’n eglur fod effaith digwyddiadau yn Ffrainc ym bellgyrhaeddol, ac nad yw Cymru’n dianc o’u gafael. Mae lleisiau’r dosbarth llywodraethol yn dangos treiddgarwch sylwad Price yn ei lythyr at Jefferson: ‘You may be sure that what is passing in France cannot be very agreeable to the courtiers and Tories in this country’. Gwelir Thomas Pennant yn ymroi i sefydlu Cymdeithas Deyrngarol Sir y Fflint, ac eglwyswyr yn sir Feirionnydd yn annog gwŷr ifanc i ymadael am yrfa yn llongau Ei Fawrhydi. Cadarnheir nad yw ofnau’r dosbarthiadau llywodraethol yn ddi-sail yn llythyrau’r saer maen Iolo Morganwg, neu yn adroddiad Richard Powel o Ysbyty Ifan ynghylch cythrwfl yn Ninbych yn 1795. Ac yn gefnlen i’r cyffroadau hyn oll clywir lleisiau’r menywod a adawyd gartref: ysgrifenna Crynwraig ifanc ynghylch cyrhaeddiad y Ffrancod yn Hwlffordd wedi eu glaniad aflwyddiannus yn Abergwaun, a rhydd Sarah Tighe adroddiad ynglŷn â gwrthryfel gwaedlyd yn Iwerddon yn 1798 mewn llythyr at ei pherthynas, Sarah Ponsonby, yn Llangollen.

Dod â’r lleisiau hyn yn fyw yw bwriad y gyfrol hon, gan sicrhau wrth wneud hynny gydnabyddiaeth i berthnasedd blynyddoedd y Chwyldro Ffrengig i hanes a datblygiad Cymru ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r ganrif ddilynol. Ceir yn y gyfrol ragymadrodd, ynghyd â nodiadau manwl ar dros ddeugain o lythyrau, gyda chyfieithiadau o’r Gymraeg a’r Ffrangeg, fel bo’n briodol.

 

SKU: ISBN: 978-1-907029-29-5 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Welsh Correspondence of the French Revolution 1789-1802”