Apocryffa Siôn Cent

£10.00

Golygwyd gan: M. Paul Bryant-Quinn

Cyhoeddwyd: 2004

ISBN: 978-0-947531-42-3

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xx+123

Hon yw’r gyfrol gyntaf yng Nghyfres Beirdd yr Uchelwyr i ymdrin â’r cerddi a briodolir i Siôn Cent, bardd crefyddol pwysicaf Cymru’r Oesoedd Canol Diweddar. Ceir ar ei enw doreth o gerddi y mae’n rhaid eu dadansoddi’n ofalus er mwyn cael hyd i’w ganu dilys; yma, golygir tair ar ddeg o gerddi neu ddrylliau y gellir eu galw yn ‘apocryffa’, sef cerddi a briodolir i Siôn Cent yn unig ond nad oes modd eu derbyn i ganon ei waith. Ceir yn yr apocryffa gerddi o wahanol gyfnodau ar amryw destunau crefyddol: anrhydeddu delw o Grist yn Nhref-eglwys; myfyrio ar bwysigrwydd y Sul; mydryddu Gweddi’r Arglwydd; ystyried tynged dyn a dyfodiad anochel y Farn. Nid Siôn Cent ei hun a welir yng ngherddi’r apocryffa, ond trwyddynt cawn gipolwg ar barhad y traddodiad o ganu crefyddol yr oedd ef yn ffigur allweddol ynddo.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-42-3 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Apocryffa Siôn Cent”