Description
Crëwyd y llyfryn hwn i gyd-fynd ag arddangosfa a gynhaliwyd yn Amgueddfa Llangollen ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2026. Mae’r llyfryn a’r arddangosfa fel ei gilydd yn gyfuniad creadigol o ddeunydd deongliadol a gwaith celf newydd a gynlluniwyd er mwyn amlygu cyfraniad abaty Glyn y Groes at fywyd diwylliannol gogledd-ddwyrain Cymru. Yn ogystal â lluniau o’r beddfeini hardd, cyflwynir detholiad o’r llenyddiaeth a gysylltir â’r fynachlog, gan ganolbwyntio’n arbennig ar farddoniaeth Gutun Owain a Guto’r Glyn.
Jenny Day a Martin Crampin, gyda chyfraniadau gan Ann Parry Owen ac Eurig Salisbury.
48 tudalen, gyda lluniau lliw niferus. Dwyieithog.
ISBN 978-1-907029-47-9





Reviews
There are no reviews yet.