Dal ar y seld neu a gawsom ni weld? Y Gymraeg, y Gyfraith a Chyfansoddiad Cymru

£5.00

SKU: 978-1-907029-48-6 Categories: ,

Description

Darlith Goffa T. H. Parry-Williams 2026

Cei ganmol hon fel canmol jwg ar seld

Ond gwna hi’n hanfod – ac fe gei di weld.

Dyna gwpled clo cyfarwydd y soned ‘Cyngor’ gan T. H. Parry-Williams o 1949, yn mynegi, ond ar yr un pryd yn dychanu, agwedd ochelgar tuag at arddel y Gymraeg fel un o ‘hanfodion’ y genedl.

Mae Emyr Lewis yn ystyried datblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol yng Nghymru ers 1998 yng ngoleuni’r geiriau hyn, gan ddadlau bod modd dweud bellach fod y Gymraeg yn hanfod Cymru, yn rhan o’i seiliau cyfansoddiadol.

Dyma ddarlith sy’n gyfuniad o feirniadaeth lenyddol ac esbonio’r gyfraith, gan gynnig sylwebaeth dreiddgar, a chwareus ar adegau, am y Gymru gyfoes.

ISBN: 978-1-907029-48-6

Nifer y tudalennau: 21tt.

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Dal ar y seld neu a gawsom ni weld? Y Gymraeg, y Gyfraith a Chyfansoddiad Cymru”