‘Curious Travellers’: Dr Johnson and Thomas Pennant on Tour

£5.00

Awdur: Nigel Leask, Mary-Ann Constantine, ac Elizabeth Edwards

Cyhoeddwyd: 2018

ISBN: 978-1-907029-28-8

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Fformat: Clawr papur, viii+40

Dyluniwyd y llyfryn deniadol hwn i gyd-fynd ag arddangosfa yn Nhŷ Dr Johnson, Llundain (Hydref 2018 – Ionawr 2019), sy’n archwilio ysbryd chwilfrydig y ddeunawfed ganrif trwy gyfrwng teithiau Thomas Pennant a Samuel Johnson yn yr Alban ac yng Nghymru. Mae’n dod â dau awdur hynod fywiog a diddorol at ei gilydd, gan gymharu eu hymatebion i ddiwylliannau, ieithoedd, tirwedd a hanes y ddwy wlad Geltaidd. Ceir lleisiau eraill yma yn ogystal, gan gynnwys James Boswell, a deithiodd gyda Johnson yn 1773, a Hester Thrale Piozzi, oedd yn gyfeilles i Johnson ac yn perthyn i Pennant. Daw’r cyfnod yn fyw trwy ddelweddau hardd yr artist Moses Griffith.

 

SKU: ISBN: 978-1-907029-28-8 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “‘Curious Travellers’: Dr Johnson and Thomas Pennant on Tour”