Gwaith Dafydd Epynt

£10.00

Golygwyd gan: Owen Thomas

Cyhoeddwyd: 2002

ISBN: 978-0-947531-51-5

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xx+214

Bardd o Frycheiniog oedd Dafydd Epynt a ganai yn ail hanner y bymthegfed ganrif a dechrau’r ganrif ganlynol. Y mae ei gerddi yn ei gysylltu’n arbennig â’r ardal o gwmpas Aberhonddu a’r Fenni, a chanodd fawl a marwnad i rai o brif deuluoedd yr ardal honno, yn cynnwys aelodau o deuluoedd yr Hafardiaid a’r Herbertiaid. Canodd hefyd gerdd i Gynog, nawddsant yr eglwys ym Merthyr Cynog, a cherdd i Gathen Sant yn ymbil arno i’w wella rhag clefyd y deirton (sef math o falaria). Nodwedd bwysig ar waith Dafydd Epynt yw’r ffaith fod testun y mwyafrif o’i gerddi wedi ei gofnodi ganddo ef ei hun yn y llawysgrifau.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-51-5 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Dafydd Epynt”