Gwaith Ieuan ap Rhydderch

£10.00

Golygwyd gan: R. Iestyn Daniel

Cyhoeddwyd: 2003

ISBN: 978-0-947531-07-2

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xviii+231

Bardd o’r bymthegfed ganrif, a hanai o Geredigion ac a ganai ‘ar ei fwyd ei hun’, oedd Ieuan ap Rhydderch. Erys ar glawr un ar ddeg o’i gerddi, yn gywyddau, awdlau, ac un englyn, ar themâu serch, gorhoffedd, darogan, bwyd, crefydd, a dychan. Dewisodd ddilyn gyrfa eglwysig, gan fwynhau’r fraint o astudio ym Mhrifysgol Rhydychen, lle y derbyniodd raddau BA, MA a Doethur yn y Gyfraith. Am resymau anhysbys, fodd bynnag, troes wedyn at yrfa secwlar, gan ddal amryw o wahanol swyddi a chanu llawer o gerddi. Yr hyn a rydd ddiddordeb arbennig iddo fel bardd yw dylanwad y profiad o’r byd rhyngwladol ehangach a gafodd yn y brifysgol ar ei ganu, sy’n dangos cyfuniad trawiadol o grefft geidwadol ddi-feth a themâu newydd arloesol.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-07-2 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Ieuan ap Rhydderch”