Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill

£10.00

Golygwyd gan: Ann Parry Owen a Dylan Foster Evans

Cyhoeddwyd: 1996

ISBN: 978-0-947531-39-3

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xvii+219

Cynhwysir yn y gyfrol hon gerddi a ychwanegwyd at ‘drydedd haen’ Llawysgrif Hendregadredd, pan oedd y llawysgrif yn ôl pob tebyg yn ‘llyfr llys’ i Ieuan Llwyd o Lyn Aeron yng Ngheredigion yn ail chwarter y bedwaredd ganrif ar ddeg. Mae nifer o’r cerddi wedi eu canu i aelodau o deulu Ieuan Llwyd yn ogystal ag i’w gydnabod megis Syr Rhys ap Gruffudd, noddwr tebygol gramadeg Einion Offeiriad, a Tomas ap Rhotbert, a oedd yn bedellus yng Ngheredigion. Ceir yma hefyd y golygiad cyntaf o gyfres hirfaith o englynion a ganodd Dafydd ap Gwilym ‘I’r Grog o Gaer’; er bod Thomas Parry wedi gwrthod yr englynion hyn yn wreiddiol o ganon Dafydd ap Gwilym fe’u derbyniodd yn ddigwestiwn yn ddiweddarach. Golygir hefyd y ddwy awdl a gadwyd inni o waith Llywelyn Ddu ab y Pastard, sef marwnad i deulu Trefynor, nid nepell o gartref Ieuan Llwyd yng Nglyn Aeron, ac awdl ddychan lem a maith a ganodd i wyth gŵr anffodus. Cedwir y naill yn Llawysgrif Hendregadredd a’r llall yn Llyfr Coch Hergest.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-39-3 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Llywelyn Brydydd Hoddnant, Dafydd ap Gwilym, Hillyn ac Eraill”