Gwaith Madog Benfras

£10.00

Golygwyd gan: Barry J. Lewis

Cyhoeddwyd: 2007

ISBN: 9780947531386

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xxiv+385

Casgliad o farddoniaeth amrywiol o’r bedwaredd ganrif ar ddeg a geir yn y gyfrol hon. Yr oedd Madog Benfras yn gyfaill i Ddafydd ap Gwilym ac fel ef yn fardd serch medrus. Tystia’r saith o gerddi dan ei enw i fywiogrwydd y canu serch yn y ganrif hon, fel hefyd gywyddau Rhys ap Tudur i fis Mai a Gronw Ddu i’r tŷ yn y llwyn. Gwahanol iawn yw’r canu crefyddol a gynhwysir yma, sef dwy awdl gyffes, rhybudd yn erbyn pechod a thraethiad hir ar waith chwe diwrnod y creu. Bydd y darllenydd hefyd yn ymglywed â chŵyn ysgytwol bardd a gollodd bump o blant i’r Pla Du, ac yn cael cipolwg ar helyntion y beirdd crwydrol gan y clerwr Iocyn Ddu ab Ithel Grach. Ceir yma hefyd ganu mawl a marwnad, gan gynnwys cywydd a ganwyd, yn ôl pob tebyg, i un o gefnogwyr Owain Glyndŵr yn ystod y gwrthryfel. Yng ngwaith Yr Ustus Llwyd cedwir dwy o’r cerddi dychan mwyaf dyfeisgar (a maleisus) yn y Gymraeg, a chynrychiolir y canu brud gan gywydd dienw a all berthyn i gyfnod Owain Lawgoch.

 

SKU: ISBN: 9780947531386 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Madog Benfras”