Gwaith Mathau Brwmffild

£10.00

Golygwyd gan: A. Cynfael Lake

Cyhoeddwyd: 2002

ISBN: 978-0-947531-76-8

Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru

Maint: 234 x 156mm

Fformat: Clawr papur, xv+129

Ymddengys mai clerwr crwydrol o Faelor Gymraeg oedd Mathau Brwmffild a chanai rhwng tua 1530 a 1545. Erys ar glawr un ar hugain o’i gerddi, yn awdlau, yn gywyddau ac yn englynion, a’r cyfan, ac eithrio un cywydd serch, yn gerddi defodol. Yr hyn sy’n hynod ynghylch ei ganu yw ei fod yn cyfarch uchelwyr o bob rhan o Gymru. Ymwelodd â chartrefi yn siroedd Môn, Arfon, Meirion, Dinbych, y Fflint, Caerfyrddin ac Aberteifi. Canodd glodydd uchelwyr a fwynhâi gwmnïaeth y beirdd, gwŷr megis Syr Wiliam Gruffudd o’r Penrhyn, Lewys Gwyn, Trefesgob, a Gruffudd Dwnn, Ystradmerthyr, ond canodd hefyd i unigolion na wyddys am unrhyw ganu arall iddynt.

 

SKU: ISBN: 978-0-947531-76-8 Categories: ,

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Gwaith Mathau Brwmffild”