You must be logged in to post a review.
Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill
£10.00
Golygwyd gan: Huw Meirion Edwards
Cyhoeddwyd: 2000
ISBN: 978-0-947531-21-8
Cyhoeddwr: Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Maint: 234 x 156mm
Fformat: Clawr papur, xvii+155
Cyhoeddir yn y gyfrol hon waith rhai o feirdd dychan y bedwaredd ganrif ar ddeg y cedwir eu gwaith yn Llyfr Coch Hergest. Cadwyd pedair cerdd wrth enw Prydydd Breuan, bardd tra medrus a hanai, mae’n debyg, o Ddyffryn Breuan yng ngogledd sir Benfro. Y mae’r gyntaf yn awdl fawl draddodiadol i Faredudd o Ynys Derllys, ond gwahanol iawn yw’r tair cerdd arall a gadwyd: awdl ddychan i ŵr o’r enw Tarre, a oedd o bosibl yn delynor; awdl ddychan filain bersonol i Siwan Morgan o Aberteifi, lle yr ymddengys fod y bardd yn talu’r pwyth am dwyll y ferch hon yn ei erbyn; ac yn olaf, englyn proest gorchestol yn dychanu Coch y Delyn. Cadwyd un gerdd yr un wrth enwau Rhys ap Dafydd ab Einion a Hywel Ystorm: y naill yn gyfres o englynion sy’n dychanu lleidr o’r enw Sawl ac yn perthyn i draddodiad o ddychanu lladron, a’r llall yn awdl ddychan faith a lliwgar i Addaf Eurych a wawdir fel crefftwr sâl, ac fel clerwr ymffrostgar hefyd. Y mae’r pum cerdd arall a gyhoeddir yma yn gerddi dienw i gymeriadau anhysbys. Fodd bynnag, cyfeirir yn y ddwy gyntaf at y Gogledd-ddwyrain a Môn, yn y drydedd at Forgannwg, ac yn yr olaf at ardal Llandybïe yn sir Gaerfyrddin. O ran eu harddull, eu geirfa frith, eu delweddaeth fras a’u gormodiaith ddigywilydd, y mae’r cerddi hyn yn debyg i ddychangerddi eraill y gyfrol hon, ac yn nodweddiadol o’r corff hynod o ganu dychan a ddiogelwyd rhwng cloriau Llyfr Coch Hergest. Ceir elfen amlycach o gellwair a thynnu coes yn y ddwy gerdd olaf, sy’n eu gosod, efallai, yn yr un math o draddodiad â defod y cyff clêr.
Reviews
There are no reviews yet.