Tystysgrif Amnewid
£30.00
Bydd Prifysgol Cymru’n darparu tystysgrif amnewid pan fydd y dystysgrif wreiddiol wedi’i cholli.
- Atgoffir y sawl sy’n gwneud cais am dystysgrif amnewid fod y cais gyfystyr â datganiad bod y dystysgrif wreiddiol ar goll neu wedi’i dinistrio.
- Nodwch na fydd y dystysgrif wreiddiol bellach yn ddilys unwaith y bydd tystysgrif amnewid wedi’i hanfon ac na fydd y Brifysgol yn gallu ei dilysu fel dogfen ddilys.
- Nodir bod Tystysgrifau yn amnewid ar gornel chwith gwaelod y ddogfen. Dylid nodi y gall tystysgrif fod ar fformat gwahanol i’r gwreiddiol ond bydd yn cynnwys yr un wybodaeth.
- Sylwch nad Prifysgol Cymru yw corff dyfarnu dyfarniadau HNC/HND ac ni fydd yn gallu darparu tystysgrif. Gwnewch gais yn uniongyrchol i’r sefydliad a fynychwyd.
Os bydd ymholiadau’n codi yn sgil eich cais byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i gadarnhau manylion y cais ac yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gofrestrfa: 02920 376999 neu ebostiwch registryhelpdesk@wales.ac.uk