Llythyr Cadarnhau Dyfarniad

£15.00

Mae Prifysgol Cymru’n cynnig y cyfle i raddedigion gael llythyr(au) Cadarnhau Dyfarniad ar bapur pennawd ansawdd uchel 160gsm Prifysgol Cymru.

Fel arfer bydd y gwasanaeth hwn yn briodol i’w ddefnyddio gan ddarpar gyflogwyr, sefydliadau addysg a thrydydd partïon perthnasol eraill, a gall gadarnhau a ydych chi wedi sicrhau dyfarniad penodol gan Brifysgol Cymru, i’ch galluogi chi i ddilyn eich dewis gyrfa neu gwrs addysg.

Bydd y llythyr Cadarnhau Dyfarniad yn cadarnhau’r wybodaeth ganlynol (lle bo’n briodol) yn unol â Deddf Diogelu Data 1998:

  • Enw Llawn y Myfyriwr (ar adeg astudio)
  • Dyddiad Geni
  • Rhif Prifysgol y Myfyriwr neu Gyfeirnod HESA (13 Digid)
  • Rhaglen Astudio/Teitl y Cwrs
  • Corff Dyfarnu’r Cymhwyster
  • Sefydliad Addysgu/Campws lle cynhaliwyd yr astudiaethau
  • Dyfarniad a Sicrhawyd
  • Dosbarth y Dyfarniad
  • Dyddiad Derbyn i’r Dyfarniad
  • Unrhyw wybodaeth arall (lle bo’n briodol)

Sylwch y gall Brifysgol Cymru hefyd darparu llythyr i gadarnhau dyfarniad mewn e-bost. Nid yw hyn yn cynnwys stamp na llofnod. Nid oes angen talu am y gwasanaeth hwn, e-bostiwch eich cais i registryhelpdesk@wales.ac.uk gan gadarnhau manylion eich dyfarniad.

Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru yn unig. Dylid anfon ceisiadau trydydd parti i ddilysu dyfarniad Prifysgol Cymru drwy ebost i registryhelpdesk@wales.ac.uk ynghyd â chydsyniad yr unigolyn graddedig y caiff y manylion eu rhyddhau.

Os bydd ymholiadau’n codi yn sgil eich cais byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i gadarnhau manylion y cais ac yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.

Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gofrestrfa: 02920 376999 neu ebostiwch registryhelpdesk@wales.ac.uk

  • Cadarnhad o Ddyfarniad

  • Gellir darparu Cadarnhad o Ddyfarniad yn y Gymraeg neu’r Saesneg. Defnyddiwch y maes ‘Nodiadau ychwanegol’ ar ddiwedd y ffurflen i gadarnhau eich dewis iaith. Os nad yw hyn yn cael ei nodi yna darperir y Cadarnhad o Ddyfarniad yn Saesneg.
  • Amdanoch chi

  • DD slash MM slash YYYY
  • Datganiad

  • Nodiadau Ychwanegol

Reviews

There are no reviews yet.

Be the first to review “Llythyr Cadarnhau Dyfarniad”