You must be logged in to post a review.
Copïau Ardystiedig o Dystysgrif Gradd a Thrawsgrifiad/Atodiad Diploma
£10.00
Noder nad ydym ar hyn o bryd, oherwydd y sefyllfa gyda Choronfeirws (COVID-19), yn gallu prosesu archebion a dderbynnir gan Brifysgol Cymru.
Os oes angen cadarnhad o’ch dyfarniad ar ffurf e-bost arnoch, cysylltwch â registryhelpdesk@cymru.ac.uk gan roi manylion eich dyfarniad, ac fe wnawn ddilysu a chadarnhau eich dyfarniad cyn gynted â phosibl.
*********************************************************************************************
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru sy’n dymuno cael copi wedi’i ardystio’n ddilys o’u tystysgrif neu eu trawsgrifiad/atodiad diploma gwreiddiol, er mwyn cyflwyno i drydydd parti at ddibenion gwirio.
- Nodwch mai dim ond pan fyddwch chi wedi graddio a bod gennych y dogfennau gwreiddiol yn eich meddiant y cewch chi wneud cais am gopïau ardystiedig.
- Os nad yw eich dogfennau gwreiddiol yn eich meddiant, a’ch bod angen copi amnewid yna dylech ailymgeisio drwy Wasanaethau Graddedigion Prifysgol Cymru.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn llwytho sganiau clir o’ch dogfennau.
- Cost pob archeb yw £10.00. Cadarnhewch y nifer o gopïau sydd eu hangen.
- Bydd yn cymryd tua 5 diwrnod gwaith i gynhyrchu ac anfon Copïau Ardystiedig o’r dogfennau, yn amodol ar y cais.
Nodwch mai dim ond dogfennau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru yn unig y gallwn ni eu hardystio.
Os bydd ymholiadau’n codi yn sgil eich cais byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i gadarnhau manylion y cais ac yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gofrestrfa: 02920 376999 neu ebostiwch registryhelpdesk@wales.ac.uk
Reviews
There are no reviews yet.