You must be logged in to post a review.
Copïau Ardystiedig o Dystysgrif Gradd a Thrawsgrifiad/Atodiad Diploma
£10.00
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru sy’n dymuno cael copi wedi’i ardystio’n ddilys o’u tystysgrif neu eu trawsgrifiad/atodiad diploma gwreiddiol, er mwyn cyflwyno i drydydd parti at ddibenion gwirio.
-
Os ydych yn gwneud cais i Wasanaethau Addysg y Byd (WES), sylwch y caiff pob dogfen bellach eu dilysu a’u cyhoeddi’n electronig. E-bostiwch gopïau o’ch dogfennau gwreiddiol ar ffurf PDF i registryhelpdesk@wales.ac.uk gan gadarnhau’r rhif cyfeirnod WES.
- Oes arnoch angen i ddilysiad o ddilysrwydd eich dogfennau gael ei anfon mewn e-bost yn unig, cysylltwch â registryhelpdesk@wales.ac.uk am arweiniad pellach.
- Nodwch mai dim ond pan fyddwch chi wedi graddio a bod gennych y dogfennau gwreiddiol yn eich meddiant y cewch chi wneud cais am gopïau ardystiedig.
- Os nad yw eich dogfennau gwreiddiol yn eich meddiant, a’ch bod angen copi amnewid yna dylech ailymgeisio drwy Wasanaethau Graddedigion Prifysgol Cymru.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn llwytho sganiau clir o’ch dogfennau.
- Cost pob archeb yw £10.00. Cadarnhewch y nifer o gopïau sydd eu hangen.
- Bydd yn cymryd tua 5 diwrnod gwaith i gynhyrchu ac anfon Copïau Ardystiedig o’r dogfennau, yn amodol ar y cais.
Nodwch mai dim ond dogfennau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru yn unig y gallwn ni eu hardystio.
Sylwch mai dim ond dogfennau a gyhoeddwyd gan Brifysgol Cymru y gallwn eu hardystio. Os cawsoch chi drawsgrifiad yn uniongyrchol gan y sefydliad lle buoch yn astudio, bydd angen i chi wneud cais iddyn nhw i ddilysu’r ddogfen hon er mwyn ei chyhoeddi i drydydd parti.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gofrestrfa: 02920 376999 neu ebostiwch registryhelpdesk@wales.ac.uk
Reviews
There are no reviews yet.