You must be logged in to post a review.
Llythyr Cadarnhau Dyfarniad
£15.00
Mae Prifysgol Cymru’n cynnig y cyfle i raddedigion gael llythyr(au) Cadarnhau Dyfarniad ar bapur pennawd ansawdd uchel 160gsm Prifysgol Cymru.
Fel arfer bydd y gwasanaeth hwn yn briodol i’w ddefnyddio gan ddarpar gyflogwyr, sefydliadau addysg a thrydydd partïon perthnasol eraill, a gall gadarnhau a ydych chi wedi sicrhau dyfarniad penodol gan Brifysgol Cymru, i’ch galluogi chi i ddilyn eich dewis gyrfa neu gwrs addysg.
Bydd y llythyr Cadarnhau Dyfarniad yn cadarnhau’r wybodaeth ganlynol (lle bo’n briodol) yn unol â Deddf Diogelu Data 1998:
- Enw Llawn y Myfyriwr (ar adeg astudio)
- Dyddiad Geni
- Rhif Prifysgol y Myfyriwr neu Gyfeirnod HESA (13 Digid)
- Rhaglen Astudio/Teitl y Cwrs
- Corff Dyfarnu’r Cymhwyster
- Sefydliad Addysgu/Campws lle cynhaliwyd yr astudiaethau
- Dyfarniad a Sicrhawyd
- Dosbarth y Dyfarniad
- Dyddiad Derbyn i’r Dyfarniad
- Unrhyw wybodaeth arall (lle bo’n briodol)
Sylwch y gall Brifysgol Cymru hefyd darparu llythyr i gadarnhau dyfarniad mewn e-bost. Nid yw hyn yn cynnwys stamp na llofnod. Nid oes angen talu am y gwasanaeth hwn, e-bostiwch eich cais i registryhelpdesk@wales.ac.uk gan gadarnhau manylion eich dyfarniad.
Mae’r gwasanaeth hwn ar gael i raddedigion Prifysgol Cymru yn unig. Dylid anfon ceisiadau trydydd parti i ddilysu dyfarniad Prifysgol Cymru drwy ebost i registryhelpdesk@wales.ac.uk ynghyd â chydsyniad yr unigolyn graddedig y caiff y manylion eu rhyddhau.
Os bydd ymholiadau’n codi yn sgil eich cais byddwn yn cysylltu â chi drwy ebost i gadarnhau manylion y cais ac yn gofyn am ragor o wybodaeth os bydd angen.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, cysylltwch â’r Gofrestrfa: 02920 376999 neu ebostiwch registryhelpdesk@wales.ac.uk
Reviews
There are no reviews yet.